Llyfrgell Y Gelli: Sicrhau ei dyfodol am bum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol llyfrgell gyhoeddus "poblogaidd" yn nhref y llyfrau wedi ei sicrhau am o leiaf pum mlynedd.
Bydd drysau llyfrgell yn Y Gelli Gandryll yn aros ar agor yn dilyn trafodaethau llwyddiannus rhwng Cyngor Sir Powys a chwmni cymunedol yn y dref.
Yn 2016 cyflwynodd y cyngor gynlluniau i gau 10 llyfrgell wledig yn y sir, gan gynnwys Llyfrgell Y Gelli.
Cyflwynwyd cynllun llwyddiannus gan bobl y dref i gadw'r llyfrgell ar agor, ond i ddyfodol y llyfrgell gael ei bygwth unwaith eto yn dilyn toriadau pellach i gyllid llyfrgelloedd Powys yn 2019, arweiniodd at ddwy flynedd o drafodaethau i gadw'r lle ar agor.
Dywedodd un o drigolion y dref Rose Lynn Pearl wrth Dros Frecwast fore Mercher ei bod yn "hynod o blês" fod drysau'r llyfrgell yn aros ar agor.
'Dim sylfaen' i gael gwared
Dywedodd Ms Pearl, sy'n defnyddio'r llyfrgell yn aml: "Rwy'n credu bo' fi'n gallu siarad ar ran yr holl gymuned a dweud bo' ni'n hynod o blês.
"Rydyn ni'n benthyg llyfrau yna ar gyfer y teulu, llyfrau Cymraeg a Saesneg, mae llawer o unigolion a theuluoedd yn y dref yn defnyddio fe.
"Peth diddorol yw bod e dal yn llyfrgell boblogaidd er bod 'da ni gymaint o siopau llyfrau.
"Mae'n llyfrgell ni yn boblogaidd iawn felly doedd dim sylfaen ar gyfer cael gwared â'r llyfrgell."
Ychwanegodd Ms Pearl ei bod hi'n credu bod y llyfrgell yn le pwysig ar gyfer gweithgareddau i'r gymuned.
"Rwy'n credu bod e'n bwysig hefyd ar gyfer adnoddau eraill," meddai.
"Wrth gwrs dyma le byse chi'n mynd os y' chi moyn help gydag incwm sylfaenol, neu lenwi ffurflenni ar gyfer benefits gwahanol, felly mae'n bwysig iawn yn y gymuned yn bendant.
"Mae'n glod mawr i'r cwmni diddordeb cymunedol bod e wedi llwyddo dod i'r cytundeb yma."
Yn ôl Mike Eccles, un o gyfarwyddwyr cwmni cymunedol HayPublicLibrary.org ymgyrchodd i gadw'r llyfrgell ar agor: "Ein bwriad cyntaf oedd cadw'r llyfrgell ar agor, ond mae hefyd gennym ni gynlluniau i ehangu ar y gwasanaethau a'r gweithgareddau sydd ar gael yn y llyfrgell.
"Yn dilyn y gefnogaeth rydyn ni wedi derbyn o Sefydliad Gŵyl y Gelli yn y gorffennol rydyn ni'n gobeithio gallwn ni barhau i weithio gyda nhw a'r gymuned ehangach i chwyldroi'r cysyniad o lyfrgell gyhoeddus a chreu cynllun i eraill ddilyn."
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell bod llyfrgelloedd "yn ogystal â bod yn hwb i'r gymuned, yn rhoi mynediad i drigolion i wasanaethau a buddion eraill".
Ychwanegodd fod datblygiad y llyfrgell yn "hollbwysig" i gwrdd ag anghenion trigolion lleol.
"Dwi wir yn edrych ymlaen at weld beth sy'n datblygu a sut mae trigolion Y Gelli Gandryll a'r ardaloedd cyfagos yn parhau i elwa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2016