Ydy hi'n amser i dacluso eich llanast digidol?

  • Cyhoeddwyd
Marc MorrisFfynhonnell y llun, Marc Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Marc Morris gyngor am sut i roi trefn ar eich bywyd digidol

Gyda nifer ohonom yn treulio oriau lu ar ein dyfeisiau technolegol yn ddyddiol, ydy hi'n amser i ystyried sut mae peiriannau prysur a gorlawn yn gwneud i ni deimlo?

Ydy hi'n amser i 'drefnu'r digidol' neu 'digital decluttering'?

Ar Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru yr wythnos yma, Hanna Hopwood fu'n siarad am y pwnc gyda'r arbenigwr technoleg, Marc Morris - a dyma'i gynghorion am sut i dacluso eich bywyd digidol!

Dim byd ar y desktop!

Y peth cyntaf i'w ystyried yn ôl Marc yw y desktop! Hwn yw'r peth cyntaf rydym yn ei weld ac os ydy e'n brysur ac yn teimlo'n llawn, yna mae hynny'n medru cael effaith ar ein hagwedd a'n meddylfryd ni wrth wynebu heriau'r diwrnod.

"Peidiwch â safio ffeiliau ar y desktop," meddai. "Mae e'r un peth â chadw pethe mewn tŷ, ni'n dueddol o gasglu stwff a wedyn cadw pethe yn yr atig, a bob hyn a hyn mae'n dod yn dasg enfawr ac mae angen rolio'r llewys a mynd lan 'na a chael good clear out.

"Yn sicr, mae defnyddio cyfrifiadur mwy trefnus llawer yn fwy pleserus i'w ddefnyddio."

Ffynhonnell y llun, alexsl
Disgrifiad o’r llun,

Cadwch eich dogfennau mewn ffolderi, yn hytrach nag ar y 'desktop'

Yn ôl Marc, "y peth pwysig yw ffeindio system sy'n gweithio i chi". Mae sawl opsiwn gwahanol, fel storio pethau fesul blwyddyn neu fis, ac mae dod o hyd i batrwm o gysoni labeli ffolderi yn gwneud pethau'n haws o ran storfa ac o ran eu darganfod hefyd.

Mae'r cam ychwanegol hwn hefyd o'i osod mewn ffolder yn syth yn gwneud i ni gwestiynu os oes wir angen ei gadw.

Os ydy meddwl nôl am sortio'r holl ddogfennau yn teimlo'n ormod, yr awgrym yw i benderfynu dechrau'r system ffeilio o heddiw ymlaen fel bod y blynyddoedd nesaf o'n blaen yn y byd digidol ychydig yn fwy trefnus.

Storio ar y cwmwl

Wrth drafod pwysigrwydd cadw dogfennau'n daclus, mae angen ystyried ble rydym yn eu cadw a'r opsiynau gorau er mwyn eu cadw'n ddiogel ac 'wrth gefn'. Sawl un ohonom sydd wedi colli ein dyfeisiau USB neu hard-drives a chyda hynny, colli ein hatgofion, ein lluniau a'n dogfennau gwaith?

"Dyw hi ddim yn achos o os byddwch yn colli eich data, mae'n gwestiwn o pryd," esbonia Marc wrth iddo fynd ymlaen i ddweud ei fod yn ffafrio storfa'r 'cwmwl' ar gyfer cadw data wrth gefn.

Gyda'r cwmwl, mae modd cael mynediad at eich data ar unrhyw ddyfais gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi.

Ffynhonnell y llun, Peter Cade
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n llawer mwy diogel i gadw dogfennau a lluniau ar y 'cwmwl' yn hytrach na dyfeisiau fel hard-drives, meddai Marc

Ond beth am yr elfen ddiogelwch o gadw pethau yn y 'cwmwl anweledig'?

Wel, dydy pethau ddim bob tro mor ddiogel â hynny wrth eu cadw nhw 'yn y cnawd', meddai Marc. "Fwy na thebyg bod sawl person sy'n berchen ar hard-drive ddim yn gwybod siwt i encrypto ffeiliau neu password protecto nhw.

"Fi wedi bod yn gweithio yn y maes am dros 15 mlynedd a naw gwaith mas o 10, os bydden i'n benthyg hard-drive rhywun, fi'n gwybod bydden i'n gallu rhoi'r hard-drive 'na mewn i'r cyfrifiadur a bant â fi, fi'n gallu gweld holl ffeiliau pawb."

Er bod cost fisol, fel arfer, ynghlwm â'r peth, esbonia Marc am bethau fel y 'cynlluniau teuluol' er mwyn rhannu'r gost ac hefyd er mwyn i wahanol aelodau o'r teulu edrych ar luniau sy'n cael ei huwchlwytho gan aelodau eraill.

Gofal gwyrdd

Peth arall am hard-drives a'r dyfeisiau USB yw unwaith eu bod nhw wedi rhedeg eu cwrs, maen nhw fel arfer yn cael eu hychwanegu at yr hyn sy'n cael ei adnabod fel 'e-wastraff'.

Ffynhonnell y llun, Richard Clark
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna lai o wastraff wrth gadw pethau ar y cwmwl, ond rhaid bod yn ofalus gyda goblygiadau amgylcheddol eraill, meddai Marc

Ond ydy'r cwmwl mor wyrdd â hynny?

"Mae'n cymryd lot o egni," meddai Marc. "Maen nhw'n buddsoddi mewn storfeydd mawr… ac maen nhw'n gorfod cael mwy a mwy o servers er mwyn cadw'r cloud storage, ac ma' hwnna'n meddwl wedyn bod angen mwy a mwy o systemau oeri arnyn nhw, a ma' hwnna'n gallu effeithio hefyd ar yr amgylchedd."

Mae Marc yn pwysleisio bod hyn yn rheswm pam fod galw ar bobl i ystyried beth sy'n mynd ar y cwmwl: "Y lleiaf o wastraff sydd gennym y gorau, ac ma' hwn yr un peth gyda thechnoleg.

"Gallwn ni helpu gyda'n ôl troed digidol ni drwy gadw pethau'n daclus, a dileu stwff ni ddim ishe, yn hytrach na chadw a buddsoddi mewn prynu rhagor o cloud storage."

Lluniau

Pan fo ffrindiau a chydweithwyr yn dod at Marc yn dweud eu bod nhw wedi colli eu data, yn fwy na dim byd arall, yr emosiwn ynghlwm â cholli lluniau a cholli atgofion yw'r peth mwyaf.

A gan ein bod ni'n medru tynnu degau o luniau bob dydd erbyn heddiw gyda'r camera bach personol sy'n dod gyda ni i bobman, dyw hi ddim syndod bod y cwmwl yn medru bod yn llawn fersiwn ychydig bach yn wahanol o'r un llun.

Er bod gan y cwmwl fuddion enfawr o ran medru uwchlwytho lluniau, eu rhannu'n eang gyda theulu a ffrindiau ar draws y byd a'u storio'n effeithiol ac yn daclus mewn ffolderi twt wedi'u labelu, rhaid peidio ag anghofio pŵer llun wedi ei argraffu, meddai'r ffotograffydd Rhiannon Mair Holland wrth siarad ar y rhaglen:

"Mae e mor bwysig. Jyst yr elfen o ddala llun yn hytrach na dala sgrin. Ti'n gweld e'n wahanol, mae'r atgofion yn teimlo'n wahanol. Ma' fe jyst mor sbeshal… Pan ma' gyda ti jyst un llun wedi printio, mae'r hud a'r lledrith nôl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Atgofion teuluol: Mae Rhiannon yn teimlo fod cael llun yn eich llaw yn gallu golygu mwy na'i weld ar sgrin yn unig

"Nes i glywed ffotograffydd yn ddiweddar yn dweud 'this generation is going to be the lost generation' o ran dyw pobl ddim yn printio lluniau… Technoleg yw e, dyw e ddim yn mynd i bara' am byth.

"Fi'n gwbod jyst papur yw llun, ond mae gyda fi lun o fy hen, hen fam-gu lan lofft a ma' hwnna wedi para', a falle bydde hard-drive ddim yn mynd i bara' mewn canrif! Felly wir, mae rhaid printio."