Apêl adolygiad barnwrol canolfan ganser yn methu
- Cyhoeddwyd

Cafodd y cynllun i godi'r ganolfan newydd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth
Mae cais i ail-ystyried penderfyniad yn erbyn cynnal adolygiad barnwrol dros godi canolfan ganser newydd ar dir glas yng Nghaerdydd wedi cael ei wrthod.
Roedd aelod o grŵp ymgyrchu wedi gofyn i farnwr yr Uchel Lys adolygu penderfyniad ym mis Medi i beidio â chaniatáu'r apêl ynglŷn â chynllun Canolfan Ganser newydd Felindre yn ardal Yr Eglwys Newydd.
Yn y gwrandawiad hwnnw, fe orchmynnodd y llys bod rhaid i Catherine Lewis dalu dros £46,000 mewn costau cyfreithiol.
Honnodd grŵp Achub y Dolydd Gogleddol bod yna sawl sail i herio'r penderfyniad, gan gynnwys problemau o ran yr effaith amgylcheddol a dadleuon o ran model clinigol y cynllun.
Ond daeth Mr Ustus Eyre i'r casgliad ddydd Mercher ei fod yn cytuno gyda phenderfyniad y barnwr gwreiddiol na fyddai'r adolygiad barnwrol yn llwyddo ac felly nad oedd am ei ganiatáu.
"Y prawf ydy a oes gan yr adolygiad barnwrol obaith gwirioneddol o lwyddo," meddai wrth oruchwylio'r gwrandawiad yng Nghaerdydd.
Dywedodd ei fod yn sicr bod Bwrdd Iechyd Felindre wedi gwneud y penderfyniad cywir ar sail y wybodaeth oedd gyda nhw ar y pryd.
Ychwanegodd nad oedd o'r farn y byddai'n bosib parhau â chynlluniau i godi'r uned newydd ar dir yr Ysbyty Athrofaol oherwydd yr amserlen ansicr ynglŷn â phryd fyddai'r safle hwnnw yn cael ei ailddatblygu.
Buasai gwneud hynny, meddai, yn gohirio'r gwaith pan fo angen clir am uned ganser newydd ar frys.

Roedd Catherine Lewis yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried opsiynau eraill
Roedd Ms Lewis, a gafodd triniaeth at ganser y fron yn Ysbyty Felindre, yn dadlau bod y llywodraeth wedi methu ag ystyried codi'r ganolfan newydd ar dir Ysbyty Athrofaol Cymru, ac y byddai'r cynllun yn torri dyletswydd cyfreithiol i gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy godi adeilad yn Yr Eglwys Newydd.
Roedd yr ymgyrch wedi codi dros £23,000 trwy dudalen ariannu torfol er mwyn ceisio am adolygiad barnwrol.
Mae llythyr a gafodd ei ddatgelu'n answyddogol yn dweud bod bwrdd ymgynghorol o arbenigwry canser wedi rhybuddio yn erbyn codi'r ganolfan newydd ar y safle.
Roedd y llythyr yn dadlau y byddai safle ar wahân yn gwaethygu pethau i gleifion o'i gymharu â chodi canolfan newydd ar bwys ysbyty cyffredinol mawr fel yr Ysbyty Athrofaol.
Dywedodd y barnwr bod ymchwiliad mawr i'r cynlluniau'n awgrymu y gallai codi'r adeilad wrth yr Ysbyty Athrofaol achosi sawl blwyddyn o oedi pan fo angen brys am ysbyty newydd.
Fe wnaeth hefyd wrthod y ddadl bod Llywodraeth Cymru'n torri ei dyletswydd i warchod, cynnal a gwella bioamrywiaeth.

Bydd yr ysbyty newydd yn agos at safle ysbyty presennol Felindre
Dywedodd Ms Lewis bod y costau y cafodd ei gorchymyn i'w talu ym mis Medi yn ormodol ac fe honnodd ei bod yn teimlo ei bod yn cael ei bwlio gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Ustus Eyre iddo gael ei "daro gan y ffaith" fod costau Bwrdd Iechyd Felindre "fwy na theirgwaith" costau Llywodraeth Cymru ac yn "ffigwr anghymesur o uchel."
Ond fe wrthododd â gwneud dyfarniad ar gostau ddydd Mercher ac fe fydd yn cyhoeddi dyfarniad ysgrifenedig maes o law.
Bydd y ganolfan newydd yn darparu triniaeth arbenigol ac yn cynnwys adnoddau dysgu, ymchwil a datblygu.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym Mawrth 2023 ac i'r ganolfan agor yn haf 2025.
Roedd yna brotestiadau ar y safle ym mis Hydref wnaeth atal gwaith yno, ac fe gafodd dau berson eu harestio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020