Sw? Ym Mharc Fictoria, Caerdydd?
- Cyhoeddwyd
Pwy feddyliai y byddai arth fach wen, mwncïod, armadilo, oposwm, mongŵs, estrys a llu o anifeiliaid estron eraill wedi byw yng Nghaerdydd ar un cyfnod?
Wel mae'n ymddangos bod sw o'r fath ym Mharc Fictoria yn ardal Treganna y ddinas ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Mae ei stori yn un llawn hynt a helynt ynglŷn ag anifeiliaid yn cyrraedd, yn dianc, neu'n ymosod ar wardeiniaid. Mae hefyd yn un sy'n ein hatgoffa o stori porthladd hanesyddol Caerdydd - sef un o'r mwyaf yn y byd ar un adeg.
80 mlynedd i'r mis ers iddi gau yn 1941 mae Cymru Fyw wedi tyrchu am yr hanes.
Sw Parc Fictoria
Cafodd Parc Fictoria ei agor yn 1897 i greu ardal hamddenol i bobl y ddinas. Cafodd ei enwi ar ôl Brenhines Fictoria yn ei blwyddyn jiwbilî diemwnt.
Yn ôl llyfryn Cyfarfod Pwyllgor y Parciau o Hydref 22, 1900, penderfynwyd yn fuan y dylai'r parc gael casgliad sŵolegol a'r cam cyntaf oedd creu adardy.
Agorwyd gardd sŵolegol yn 1902 a doedd hi ddim tan 1906 i'r enw Sw Parc Fictoria gael ei ddefnyddio.
Yn fuan iawn fe dyfodd y casgliad ac ymhlith rhai o'r anifeiliaid cynnar roedd storciaid, estrys, mwncïod, ffesantod aur o China, mongŵs a thylluanod o Awstralia a De America.
O ble daeth yr anifeiliaid?
Roedd Caerdydd yn borthladd rhyngwladol prysur ac yn un o'r mwyaf yn y byd ar yr adeg.
Ar ei hanterth yn 1913 allforiwyd swm anferthol o 10.7 miliwn tunnell o lo oddi yno i wledydd ar draws y byd.
Gyda'r llongau yn ymweld â gwledydd pell ar gyfandiroedd America, Asia ac Awstralia roedd y capteiniaid llong yn dychwelyd gyda'r rhoddion gwyllt.
I mewn i'r parc a nhw…
Datblygodd y sw wrth i allforiant glo Cymru gynyddu.
Is-arolygydd y parc oedd yn gyfrifol am gofrestru'r anifeiliaid ac yn ôl ei gofnodion roedd 58 o adar a mamaliaid yn cael eu cadw ym Mharc Fictoria yn 1908.
Mae nifer yn gyfarwydd â 'Billy the Seal', un o gymeriadau enwog y parc - mae cerflun o'r morlo yno ers 1997.
Gellir gweld ar gardiau post luniau o'r morlo yn gwefreiddio plant y cyfnod.
Mae lluniau eraill o'r parc yn brin, ond mae'n debyg fod gan bapurau newydd Cymraeg a Saesneg y cyfnod ddiddordeb mawr mewn be oedd yn mynd ymlaen yno.
Mae cofnodion papurau'r Western Mail, y South Wales Daily News ac eraill yn dangos y llu o wahanol anifeiliaid oedd yn cyrraedd y sw o'r llongau.
Helynt
Anodd fyddai dychmygu'r anifeiliaid o'r cyfandiroedd cynnes yn byw trwy aeafau oer Cymru wrth gwrs, felly nid yw'n syndod i'r mwncïod ddial mewn rhyw ffordd.
Mae llyfryn Cyfarfod Pwyllgor y Parciau o 29, Hydref 1909 yn nodi: "Anaf i'r Cynorthwyydd. Mae'n ddrwg gen i adrodd bod y person sydd wedi'i anafu gan y Mwncïod am y chweched tro wedi ei anafu ac o dan driniaeth feddygol fyth ers hynny."
Tydi pobl y cyfnod Edwardaidd ddim yn adnabyddus am eu hagweddau gwaraidd iawn tuag at anifeiliaid, fel mae helyntion yn y sw yn profi...
Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio aeth cyflwr y sw yn waeth ac yn waeth gyda llai a llai o anifeiliaid ac adar yn cyrraedd yno o'i gymharu â'r dyddiau cynnar.
Digwyddodd y dirywiad ochr yn ochr â'r Streic Gyffredinol yn 1926 a'r Dirwasgiad Mawr yn y 30au.
Gostyngodd allforion glo o dan 5 miliwn tunnell i gymharu â'r 13 miliwn yn 1913. Roedd llai o longau ac felly yn ei dro gostyngodd nifer yr anifeiliaid oedd yn cyrraedd.
Ym mis Tachwedd 1941 caewyd y sw er mwyn creu lle i gynhyrchu bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Sw i'r brifddinas
Ar drothwy gwneud Caerdydd yn brifddinas Cymru roedd galwadau i greu sw yng Nghaerdydd unwaith eto, fel oedd i'w gweld yn ninasoedd Lloegr.
Er hynny bu gwrthwynebiad i ddwyn rhyddid anifeiliaid gwyllt, a ni lwyddodd yr ymgais.
Adeiladwyd lle chwarae i blant ar leoliad y sw yn y 50au, a dyna sydd yno yn dal i fod.
Wedi ei osod gyferbyn mae cerflun 'Billy the Seal' sy'n cadw'r darn bach yma o hanes ein prifddinas yn fyw hyd heddiw.