Dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod dyn wedi marw wedi achos o drywanu yn ardal Tre-biwt Caerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ychydig wedi 09:00 ddydd Mawrth ar Stryd Hansen.
Er nad yw'r corff wedi ei adnabod yn swyddogol eto, dywed Heddlu De Cymru mai'r gred yw bod y dyn yn 31 oed ac yn byw yn lleol ac mae ei deulu wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Mae dyn 44 oed a gafodd ei arestio ddydd Mawrth yn ardal Sblot y ddinas ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau yn y ddalfa.
Dywed y llu nad yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth wrth i'r ymchwiliad barhau i'r achos.