Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Hull
- Cyhoeddwyd
Dau dîm yng ngwaelodion Y Bencampwriaeth oedd yn herio'i gilydd yng Nghaerdydd nos Fercher a gêm dau dim gwan a gafwyd.
Roedd Caerdydd yn araf a difywyd, ac ar ôl chwarter awr fe sgoriodd Hull ar ôl cic gornel gyda Keane Lewis-Potter yn penio'r bêl i gornel uchaf y rhwyd.
Erbyn hanner amser roedd cefnogwyr yr Adar Gleision yn anfodlon iawn.
Daeth Caerdydd allan gydag ysbryd gwahanol iawn wedi hanner amser a bu sawl ymgais ar y gôl ond yn aflwyddiannus er eu bod yn agos.
Gyda deg munud i fynd yr oedd y dyrfa yn dechrau dangos eu hanfodlonrwydd gyda Chaerdydd unwaith yn rhagor.
Yn y munud olaf fe fethodd James Collins â sgorio - ei beniad rydd yn taro'r postyn yn unig.
Mae'r golled gartref yn golygu fod Caerdydd yn disgyn i'r ugeinfed safle yn y Bencampwriaeth, a Hull yn dringo uwch eu pen.