Timau rygbi a Chymry yn ceisio dychwelyd o Dde Affrica

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pencampwriaeth Rygbi UnedigFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yn ceisio dychwelyd o Dde Affrica ar frys wedi i'r wlad gael ei rhoi ar restr deithio goch y DU unwaith eto.

Daw hynny yn dilyn pryderon fod amrywiolyn newydd o Covid wedi dechrau ymledu mewn sawl un o wledydd deheuol Affrica.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn ymwybodol o'r straen newydd, a bod "nifer y mwtadiadau yn yr amrywiolyn hwn yn amlwg yn bryder".

Yn ogystal ag yn Affrica, mae achosion o'r amrywiolyn newydd hefyd wedi eu cadarnhau mewn gwledydd gan gynnwys Gwlad Belg a Hong Kong bellach.

Cyfnod cwarantin

Mae Rygbi Caerdydd a'r Scarlets yn Ne Affrica ar hyn o bryd ar gyfer gemau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, ond bydd yn rhaid gohirio dwy o'r gemau hynny yr un os ydyn nhw'n gadael.

Bydd De Affrica yn cael ei rhoi ar y rhestr goch - yn ogystal â Namibia, Zimbabwe, Botswana, Lesotho ac Eswatini - am 12:00 ddydd Gwener, yn dilyn pryderon am amrywiolyn newydd posib o Covid.

Bydd yn rhaid i unrhyw un o Brydain sy'n cyrraedd o'r gwledydd hynny ar ôl 04:00 ddydd Sul dreulio cyfnod o gwarantin mewn gwesty.

Os ydyn nhw'n cyrraedd yn ôl cyn hynny, bydd yn rhaid hunan ynysu adref am 10 diwrnod.

Bellach mae Llywodraeth Cymru'n dilyn yr un rheolau teithio â Lloegr, ble byddai unrhyw hediadau uniongyrchol o Dde Affrica yn debygol o lanio beth bynnag.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Caerdydd yn ymarfer yn Cape Town

Mae'r timau ar hyn o bryd yn ceisio dychwelyd cyn y terfyn amser ddydd Gwener, gan ystyried hediad preifat os yn bosib.

Dywedodd cadeirydd y Scarlets, Simon Muderack eu bod yn "canolbwyntio ar les ein staff yn Ne Affrica a phryder eu teuluoedd adref", a'u bod yn edrych ar "bob opsiwn" i ddychwelyd cyn gynted â phosib.

Roedd Caerdydd a'r Scarlets i fod i chwarae dwy gêm yr un yn y wlad cyn dychwelyd ar gyfer gemau Cwpan y Pencampwyr ar 10 Rhagfyr - fel Munster o Iwerddon a Zebre o'r Eidal, sydd hefyd yn Ne Affrica am yr un rheswm.

Er na fydd y gemau hynny yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nawr yn digwydd, dylai'r gemau Ewropeaidd fis nesaf gael eu chwarae fel y disgwyl os yw'r timau'n llwyddo i ddychwelyd cyn i'r cyfnod hunan ynysu ddechrau.

Teithwyr eraill yn styc

Dywedodd Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Amddiffyn Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn ymwybodol o'r amrywiolyn newydd "yn Ne Affrica, Hong Kong a Botswana".

Ychwanegodd eu bod yn "cadw llygad cyson" ar unrhyw amrywiolion newydd, ac mai'r peth gorau i wneud o hyd oedd cymryd y brechlyn.

"Amrywiolyn Delta yw'r un sy'n parhau i fod fwyaf cyffredin yng Nghymru, a does dim achosion o'r amrywiolyn newydd wedi eu canfod yng Nghymru," meddai.

Disgrifiad,

Delyth Lewis Jones o ardal Llanrwst sydd allan yn Ne Affrica ar hyn o bryd

Mae Delyth Lewis Jones o Lanrwst yn un o'r Cymry eraill sydd allan yn Ne Affrica ar hyn o bryd hefyd, ac yn ceisio dychwelyd cyn i'r rheolau newydd ddod i rym.

"'Dan ni 'di bod yn trio edrych bore 'ma i weld os oes modd dod adre heddiw, fory, ond does dim byd ar gael, hyd yn oed drwy drydydd gwlad," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Felly 'dan ni 'chydig bach yn styc ar hyn o bryd. Doedden ni ddim fod i ddod 'nôl tan wythnos i ddydd Sul.

"'Dan ni'n lwcus ma' pedwar ohono ni, 'dan ni yng nghwmni ein gilydd i ryw raddau. Hwyrach mai'r peth gorau i ni 'neud ydi chwilio am flight allan o Dde Affrica i wlad arall yn y tymor byr, a wedyn gweld lle 'dan ni'n mynd o fan 'na.

"Y cwbl 'dan ni 'di gweld ydi be' sydd ar wefannau y BBC, y llywodraeth - ond ychydig iawn o wybodaeth sydd ar honno hefyd.

"'Dan ni ddwy awr o'ch blaen chi, felly negeseuon gaethon ni gan ffrindiau yn dod ganol nos yn gadael i ni wybod, achos o'n nhw wedi gweld cyn ni yn amlwg be' oedd y goblygiadau."