Pobl heb eu brechu yn 'cymryd gwely' oddi ar eraill
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion Covid sydd heb eu brechu yn "cymryd gwely" ysbyty oddi wrth bobl eraill sy'n wael, yn ôl y Gweinidog Iechyd.
Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd fod tua 9% o welyau ysbytai wedi'u cymryd gan gleifion Covid, a bod "nifer o'r rheiny" heb gael eu brechu.
Daw wrth i'r gweinidog ddweud y bydd y llywodraeth yn galw ar y "fyddin o bobl" wnaeth helpu gyda'r rhaglen frechu wreiddiol i ddod i'r adwy eto wrth i bobl aros am eu brechiad atgyfnerthu.
Dywedodd Ms Morgan bod trafodaethau wedi dechrau gyda meddygon teulu, ac y byddai'r fyddin, y frigâd dân a gwirfoddolwyr hefyd ar gael i helpu'r ymdrechion.
'Cyfrifoldeb i'r gymuned yn ehangach'
Dywedodd yn y Senedd ddydd Mercher fod angen i bobl sydd heb eu brechu sylweddoli eu bod yn "cymryd gwely, allai fod wedi cael ei osgoi".
"Mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall eu cyfrifoldeb i'r gymuned yn ehangach, a chymryd y cyfle i gael eu brechu," meddai Ms Morgan.
Daw hyn wedi'r cyhoeddiad y bydd pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn ychwanegol yn sgil achosion o amrywiolyn newydd o Covid-19, amrywiolyn Omicron.
Ond does gan feddygon teulu yng Nghymru ddim y capasiti i helpu gyda'r ymgyrch i roi brechiadau atgyfnerthu, yn ôl arweinydd yn y maes.
Dywedodd Dr Phil White o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru ei bod yn "afresymol" disgwyl i feddygon sydd "ar ein gliniau yn barod" ymgymryd â gwaith pellach o frechu cleifion.
Yn siarad ar BBC Radio Cymru yn ddiweddarach, dywedodd bod "meddygon yn gweithio oriau ychwanegol yn barod just i ymdopi â'r gwaith".
Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r llywodraeth benderfynu beth yw'r flaenoriaeth i feddygon.
Daw wrth i Weinidog Iechyd Cymru alw am "ddod â sgramblo'r bore i ben" i gleifion sydd yn aml yn gorfod ffonio "dro ar ôl tro" i drefnu apwyntiad wrth i feddygfeydd agor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cyllid ychwanegol a newidiadau i gytundebau meddygon teulu sy'n anelu at wella a chynyddu capasiti'r system apwyntiadau.
Ond yn ôl y corff sy'n cynrychioli meddygon teulu mae meddygfeydd dan bwysau "enfawr" a does dim digon o feddygon i ateb y galw am apwyntiadau.
"Mae meddygon teulu a'u timau eisiau darparu'r mynediad gorau bosib i'w cleifion - yn aml trwy weithio tu hwnt i'w cytundebau," medd Dr White.
"Ond mae'n hanfodol bod cleifion yn deall maint y pwysau ar y proffesiwn a'r hyn y gallai'r gweithlu presennol ei ddarparu mewn difrif."
Ychwanegodd: "Yn syml, does dim digon o feddygon teulu'n gweithio yn y maes gofal sylfaenol i reoli lefelau presennol y galw.
"Beth mae hynny'n ei golygu yw bod rhaid cyfeirio cleifion at wasanaethau eraill os taw'r rheiny sy'n fwy priodol ac fe allen nhw orfod aros i weld eu meddyg teulu pan mae angen.
"Rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru'n deall yr her ddirfodol (existential) y mae meddygfeydd yn eu hwynebu."
'Dim datrysiad cyflym'
Dywedodd Gareth Thomas o sefydliad IGPM (Institute of General Practice Management) fod meddygfeydd wedi ymdrechu ers sawl blwyddyn i ymateb yn well i'r galw am apwyntiadau.
Rhybuddiodd "nad ail-drefnu adnoddau cyfyngedig i alluogi cleifion i drefnu apwyntiadau ymhellach o flaen llaw yw'r ateb" gan fod perygl i lai o bobl gael eu gweld yn y pen draw wrth i fwy o gleifion fethu â chadw'u hapwyntiadau.
Ychwanegodd nad yw'n bosib sicrhau "datrysiad cyflym i broblem sydd wedi'i gwreiddio".
"Bydd angen i bractisiau weithio gyda chleifion i gytuno ar yr hyn sy'n addas mewn ymateb i'w hanghenion, yn y dealltwriaeth y gallen nhw gael eu cyfeirio at wasanaeth arall fel bod meddygon yn rhydd i ddelio ag achosion mwy cymhleth."
Fel rhan o'r cytundeb newydd rhwng meddygon teulu a Llywodraeth Cymru, bydd cleifion sydd angen apwyntiad ar ôl bod trwy broses brysbennu (triage) yn cael apwyntiad, ar yr un diwrnod neu yn y dyfodol.
Fel sy'n digwydd eisoes, bydd rhai cleifion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau iechyd eraill.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio bod "y cytundeb diwygiedig yn ei gwneud yn glir nad yw'r arfer o ryddhau apwyntiadau bob dydd am 08:00 yn dderbyniol mwyach".
I gyd-fynd â'r telerau newydd, bydd:
£12m yn cael ei wario dros dair blynedd ar "gapasiti ychwanegol";
Meddygon teulu a staff meddygfeydd yn cael codiad cyflog o 3%;
£2m ar gael i ddelio â phwysau misoedd y gaeaf.
"Bydd buddsoddi mewn capasiti'n mynd peth ffordd at leddfu'r pwysau presennol ac mae'n gydnabyddiaeth i'w groesawu o'r diffyg gweithwyr sy'n wynebu meddygon teulu o ran darparu'r gwasanaethau maen nhw'n dymuno eu darparu," medd Dr Phil White.
Beth oedd yr ymateb?
Wrth ymateb i bryderon am frechu, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod "rhai meddygon teulu yn barod i helpu gyda'r achos yma", ac y bydd cymorth pellach ar gael hefyd.
"Mi fydd 'na ymdrech i gael pob un i helpu allan yn y sefyllfa yma, yn cynnwys llywodraeth leol, yn cynnwys y frigâd dân, yn cynnwys y fyddin," meddai.
"Felly fydd gofyn i bob un a hefyd y byddin o bobl wnaeth helpu ni tro diwethaf, y gwirfoddolwyr 'na wnaeth camu 'mlaen a fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw camu 'mlaen eto."
Ychwanegodd fod gofyn i feddygon teulu yn anochel am olygu bod "rhaid i rywbeth arall fynd", ond fod angen gwneud hyn er mwyn osgoi "ton anferth fydd hyd yn oed yn waeth i'r gwasanaeth iechyd yn y tymor hir".
Wrth drafod y cytundeb newydd i feddygon, dywedodd ei bod am am "weld diwedd ar y dagfa 8:00 lle mae'n rhaid i gleifion ffonio eu practis dro ar ôl tro i gael apwyntiad".
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i "gefnogi meddygon teulu sy'n gweithio mor galed".
Dywedodd ei bod hi'n annog y cyhoedd i ystyried ffyrdd eraill i gael cyngor a chymorth meddygol y gaeaf hwn.
Mae o leiaf 14,000 o apwyntiadau fideo wedi bod yn ystod y pandemig, meddai, ac mae'r llywodraeth am sicrhau bod yr opsiwn yn parhau.
"Rydyn ni'n awyddus i weld newid yn y ffordd mae pobl yn defnyddio'r meddyg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021