Rhybudd melyn am rew, eirlaw ac eira fore Iau

  • Cyhoeddwyd
rhewFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn sy'n debygol o effeithio ar rannau helaeth o Gymru dros nos.

Mae disgwyl i law, eirlaw ac eira ymledu tua'r de rhwng hanner nos nos Fercher a 10:00 bore Iau.

Gyda'r tymheredd eisoes mor isel, mae disgwyl amodau rhewllyd iawn.

Mannau uchel sydd fwyaf tebygol o weld rhwng 1cm a 2cm o eira.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd

Mae anafiadau'n bosib o ganlyniad llithro neu syrthio ar ffyrdd, palmentydd neu lwybrau seiclo ac fe allai'r amodau achosi trafferthion wrth deithio.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i 20 o siroedd Cymru - pob un heblaw Wrecsam ac Ynys Môn.

Pynciau cysylltiedig