Ateb y Galw: Meggan Lloyd Prys

  • Cyhoeddwyd
Meggan Lloyd Prys a'i phlantFfynhonnell y llun, Meggan Lloyd Prys
Disgrifiad o’r llun,

Meggan Lloyd Prys a'i phlant

Yr academydd Meggan Lloyd Prys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Myfyr Prys yr wythnos diwethaf.

Yn wreiddiol o dref fach yn Ohio o'r enw Chillicothe mae Meggan nawr wedi symud i fyw i Gymru ers 15 mlynedd.

Symudodd hi yma ar ôl cyfarfod â'i gŵr, sydd yn dod yn wreiddiol o Riwlas ger Bangor. Roedd hi'n athrawes feithrin pan roedd hi'n byw yn America, ond mae wedi symud i weithio fel academydd o fewn addysg uwch ac addysg bellach ers symud i Gymru.

Erbyn heddiw mae Meggan yn gweithio i Sgiliaith yn Grŵp Llandrillo Menai, gan weithio ar brosiectau i hybu'r Gymraeg o fewn addysg bellach.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio mynd i bysgota efo fy nhad-cu pan oeddwn i'n blentyn bach.

Mae'n siŵr fy mod i'n rhyw bum mlwydd oed ac roedd fy nhad-cu yn caru pysgota. Doedd iechyd tad-cu ddim yn grêt ac roedd o wedi cael llawdriniaeth yn reit ddiweddar ac roedd y teulu i gyd yn poeni amdano fo'n mynd â fi allan ar ben ei hun.

Dwi'n cofio pawb yn dweud wrthyf fi beth i wneud os oedd o'n cael trawiad ar y galon. Roeddwn i fod rhedeg i chwilio am help, a pheidio mynd mewn i'r dŵr ar ei ôl os oedd o'n syrthio fewn i'r llyn! Dwi'n cofio methu mwynhau achos fy mod hi'n poeni gymaint.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y tro cyntaf i fi ddod i Ewrop oedd pan o'n i'n 23 mlwydd oed.

Fe wnes i deithio efo rhai o fy ffrindiau gorau o fy mhlentyndod i'r Eidal i ardal Florence. Cawsom ni gymaint o nosweithiau bythgofiadwy yno, yn gweld pethau anhygoel, cyfarfod pobl difyr, bwyta ac yfed.

Roedd o'n brofiad mor wahanol i ferch ifanc o America. Roedd o'n brofiad anhygoel, ac o edrych yn ôl arno, dwi'n meddwl ei fod wedi cael dylanwad mawr ar fy mywyd. Mae'n siŵr ei fod o weld dylanwadu arna i symud o gartref, teithio a mynd i weld y byd pob cyfle dwi'n ei gael.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi newydd gychwyn cwmni yn creu gemwaith ferdigris.

Enw'r cwmni ydi Môn a Môr. Dwi'n defnyddio darnau o frás [efydd] ac yn eu trochi mewn dŵr hallt o'r Fenai. Ferdigris ydi'r lliw glas neu wyrddlas ti'n ei weld pan mae halen yn adweithio efo metal. I fi, mae o'n lliw lan y môr, a dwi'n caru unrhyw beth i neud efo'r môr.

Ferdigris yw lliw y Statue of LibertyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ferdigris yw lliw y Statue of Liberty

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Anturiaethwraig trawsatlantig clên.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy ngardd gefn. Dwi'n ddigon lwcus i fyw ar lan y Fenai yn Y Felinheli ac mae o'n fendigedig.

Ges i fy magu yn Ohio sydd 10 awr i ffwrdd o lan y môr. Pan oeddwn i'n fach roedd cael mynd i lan y môr yn rhywbeth mor arbennig a bydden ni yn mynd i un o draethau De Carolina ar ein gwyliau bob blwyddyn.

Roeddwn i bob tro yn crio pan oeddwn i'n gorfod mynd adref i Ohio. Dwi'n teimlo mor lwcus i fedru edrych allan o fy ffenest, neu eistedd yn yr ardd, a gweld y môr. Dwi hefyd wrth fy modd efo traethau a mynyddoedd Cymru. Mae'n wlad mor brydferth.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dwi'n cofio hedfan o Lundain i Sbaen efo fy ffrind gorau. Fe wnaeth y clo dorri ar ddrws y tŷ bach ar yr awyren ac roeddwn i yn styc yna am amser hir - bron trwy'r daith i gyd.

Ar ôl gweithio allan bod yna broblem, roedd yr air hostess yn gweiddi drwy'r drws arna i "Do you speak English? Stand on the toilet. Kick the door!".

Yn y diwedd fe wnaeth dyn tân o Ogledd Iwerddon, a oedd yn digwydd bod ar yr awyren, ddefnyddio ei gyllell boced (ar awyren!) i dynnu'r drws oddi ar y hinges!

Fe wnaeth pawb glapio pan wnes i o'r diwedd gamu allan o'r tŷ bach. Beth sy'n ddoniol am y stori ydi wnaeth fy ffrind ddim sylwi fy mod wedi mynd am yr holl amser a heb ddod 'nôl am amser hir iawn. Roedd hi jyst yn meddwl bod y ciw yn hir!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Meggan yn feichiogFfynhonnell y llun, Meggan Lloyd Prys
Disgrifiad o’r llun,

Meggan a'i merch ar lan Llyn Padarn

Pan gefais i fy mhlentyn cyntaf, roedd hi'n hwyr yn cyrraedd. Roeddwn i'n anferthol! Es i a'r gŵr am dro i Lyn Padarn yn y gobaith y byddai'r cerdded a'r symud o gwmpas yn helpu cychwyn y broses.

Mi wnaeth o weithio ac mi es i mewn i labour y noson honno. Dyma lun o'r ferch a fi yn yr un un lle, cyn i'w brawd gyrraedd. Aethom ni gyd i lawr i Lyn Padarn, i union yr un lle, i weld os fyddai'r un peth yn digwydd eto. Y noson honno cafodd y mab ei eni!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan oeddwn i'n 18 fe es i i sgïo am y tro cyntaf. Mae yna lethr sgïo rhyw ddwy awr i ffwrdd o ble ges i fy magu, ond doeddwn i heb fod yno o'r blaen.

Dwi'n berson reit ffit ac athletig, a byse ti'n disgwyl y byddwn i'n gallu pigo sgïo i fyny yn reit hawdd, ond na. Roeddwn i'n ofnadwy! Doeddwn i ddim yn gallu hyd yn oed cael oddi ar y lifft.

Es i rownd a rownd arno nifer o weithiau heb gael i ffwrdd ar y top. Yn y diwedd fe wnaeth y dyn oedd yn gyfrifol am y lifft ddod arno efo fi a rhoi llond pen i mi. Nes i grio o flaen pawb.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n berson reit sensitif, ond dwi ddim yn crio'n aml iawn.

Mae yna lot o bethau yn digwydd yn y byd ar hyn o bryd sy'n torri fy nghalon. Mae angen lot mwy o empathi arnom ni fel cymdeithas.

line

O archif Ateb y Galw:

line

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi ddim yn dda am wneud penderfyniadau!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Unrhyw beth gan Maya Angelou. Dwi'n ei hedmygu hi'n fawr. Mae hi'n berson mor ddoeth ac mae ei llyfrau hi mor ysbrydoledig.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dwi'n agos iawn i fy mam-gu sydd yn dal i fyw yn Chillicothe, Ohio.

Dwi wrth fy modd yn mynd adref i'w gweld hi ac eistedd ar ei phatio, yn enwedig yn yr haf, pan mae adar fel y Cardinals (aderyn swyddogol y dalaith) a'r hummingbirds yn hedfan o'n cwpan. Mae Mam-gu yn hoffi yfed y cwrw Miller Lite, sydd yn dipyn o beth i rywun sydd yn 88 mlwydd oed! Does dim byd gwell ar ddiwrnod poeth!

Meggan Lloyd PrysFfynhonnell y llun, Meggan Lloyd Prys

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mi faswn i unai yn myfyrio, neu gweiddi a sgrechian. Anodd dweud...

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Elon Musk neu Jeff Bezos. Baswn i'n gwagio ei cyfrifon banc nhw ac yn rhoi ei holl arian i elusennau.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Heulwen Beasley Park

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw