Amseroedd aros yn naw awr yn uned brys Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ysbyty mwyaf Cymru yn annog pobl i beidio â mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys oni bai bod ganddyn nhw fater sy'n peryglu bywyd.

Mae'r uned argyfwng yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd "dan bwysau eithafol ac mae'n eithriadol o brysur".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod yr amseroedd aros yn fwy na naw awr, ac yn "llawer hirach nag yr hoffem".

Maen nhw'n cynghori pobl i ymweld â gwiriwr symptomau GIG Cymru, dolen allanol yn gyntaf neu drwy ffonio 0300 10 20 247.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

"Mae'r Uned Argyfwng yn Ysbyty Athrofaol Cymru dan bwysau eithafol ac mae'n eithriadol o brysur ar hyn o bryd," meddai llefarydd.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd fynychu os gwelwch yn dda os yw'n peryglu bywyd neu aelodau (limbs)."

Fis diwethaf, gwnaeth yr ysbyty apêl tebyg, gan ddweud bod y pandemig yn parhau i roi gwasanaethau dan straen.