Y Bencampwriaeth: Middlesbrough 1-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
ôl gyntaf Isaiah Jones o'r tymorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Isaiah Jones ei gôl gyntaf o'r tymor i hawlio buddugoliaeth i'r tîm cartref

Roedd un gôl yn ddigon i roi buddugoliaeth i Middlesbrough yn erbyn Abertawe ddydd Sadwrn.

Ar ôl 25 munud cyntaf tawel, daeth y gêm yn fyw pan gurodd Isaiah Jones y trap camsefyll i dorri'n glir a churo Ben Hamer yn bwyllog.

Anaml y byddai Abertawe dan fygythiad yn yr hanner cyntaf ond roedden nhw wedi gwella llawer ar ôl yr egwyl.

Roedd Joel Piroe yn grediniol ei fod wedi unioni'r sgôr i'r Elyrch cyn i Paddy McNair glirio ei ergyd oddi ar y llinell.

Mae buddugoliaeth yn symud Boro uwchben Abertawe i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth.

Mae ail golled Abertawe yn olynol - y tro cyntaf i hynny ddigwydd y tymor yma - yn golygu eu bod yn disgyn i'r 12fed safle.