Tryleg: Ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl i ddyn 56 oed farw

  • Cyhoeddwyd
heddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 56 yn Sir Fynwy nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i Church Road, Tryleg ger Mynwy am tua 20:40 ble cafwyd hyd i'w gorff.

Mae dyn 40 oed yn y ddalfa wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, meddai'r heddlu.

Dywed y llu fod swyddogion yn parhau ar y safle wrth i'r ymchwiliad barhau.