Offer syrffio ysgol anghenion arbennig wedi'i ddwyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd llawer o'r offer ei brynu yn dilyn ymgyrch godi arian gan yr ysgol a chwmnïau syrffio lleol
Mae ysgol anghenion arbennig ym Mhenarth yn apelio am help i ddod o hyd i offer syrffio gwerth miloedd o bunnoedd sydd wedi'i ddwyn o un o'i drelars.
Roedd y padlfyrddau, byrddau syrffio, wetsuits ac offer arall Ysgol y Deri wedi'i brynu yn dilyn "ymgyrch galed" i godi arian.
Dywedodd staff fod cynnal gweithgareddau ar y dŵr yn helpu disgyblion i ymlacio a rhyddhau ychydig o'u pryder.
Ychwanegon nhw ei bod yn "ofnadwy" fod yr offer wedi'i ddwyn.

Mae disgyblion Ysgol y Deri yn mynd allan ar y dŵr sawl gwaith yr wythnos
Dywedodd Dan Willmore o dîm cefnogi disgyblion yr ysgol ei fod "mewn sioc" ar ôl clywed ddydd Llun fod rhywun wedi torri mewn i'r trelar.
"Mae'r holl ddisgyblion wedi bod yn rhan o drefnu'r trelar 'na," meddai.
"Yn gorfforol ac yn emosiynol, maen nhw wedi buddsoddi mewn syrffio a phadlfyrddio. I rai disgyblion dyma'r ymyrraeth sy'n gweithio orau iddyn nhw.
"Boed yn syrffio neu badlfyrddio, mae'n helpu nhw i adeiladu perthnasau ac ymddiriedaeth."

Dywedodd staff ei bod yn "ofnadwy" fod yr offer wedi'i ddwyn
Mae Mr Willmore yn mynd allan ar y dŵr gyda disgyblion sawl gwaith yr wythnos, ond dywedodd fod rhai o'r padlfyrddau mor newydd nad oedden nhw wedi cael eu defnyddio.
Mae'n gobeithio, gan eu bod yn eithaf prin, y byddan nhw'n haws i'w canfod.
"Fe wnaeth y plant helpu eu dadbacio nhw a'u rhoi at ei gilydd. Wrth wneud hynny maen nhw'n teimlo'r angen i gymryd gofal ohono," meddai.
Cafodd llawer o'r offer ei brynu yn dilyn ymgyrch godi arian gan yr ysgol a chwmnïau syrffio lleol, ac fe wnaeth Mr Willmore badlfyrddio ar hyd arfordir de Cymru i gasglu arian.
Wrth apelio am wybodaeth gan y cyhoedd, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod y lladrad wedi eu "dychryn".
Ychwanegodd: "Rydym yn gwybod gymaint y mae disgyblion Ysgol Y Deri yn caru syrffio a phadlfyrddio ac rydym yn gwneud popeth posib i gadarnhau pwy sy'n gyfrifol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017