Bangor: Seiclwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda fan
- Cyhoeddwyd
Mae seiclwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar gyrion Bangor fore Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw i Fryn Faenol ar yr A487 ger Penrhosgarnedd ychydig ar ôl 07:00 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng fan Crafter VW llwyd a dyn ar gefn beic.
Cafodd y dyn - a oedd yn ei 40au ac yn byw yn lleol - ei gludo i Ysbyty Gwynedd lle bu farw'n ddiweddarach.
Mae dyn 38 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae rhan o'r A487 ar gau i'r ddau gyfeiriad.
Dywedodd y Sarjant Liam Ho o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn a fu farw.
"Mae angen i ni sefydlu amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac rwy'n apelio ar unrhyw fodurwyr a oedd yn teithio yn yr ardal ac a allai fod wedi dal unrhyw beth o berthnasedd ar luniau dashcam i gysylltu â ni.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra bod y ffordd ar gau."