Galw am well PPE i staff iechyd yn sgil amrywiolyn Omicron

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Masks
Disgrifiad o’r llun,

Mae masgiau FFP3 yn amddiffyn yn well na masgiau llawfeddygol cyffredin

Mae 'na alwadau i gynnal "adolygiad brys" o'r offer diogelwch personol (PPE) sy'n cael ei roi i weithwyr iechyd yn sgil amrywiolyn newydd Omicron coronafeirws.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) a Chymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn dweud bod angen gwneud masgiau o well safon ar gael i bawb am eu bod yn amddiffyn yn well na masgiau llawfeddygol cyffredin.

Ar hyn o bryd dim ond meddygon sy'n gwneud rhai tasgau penodol sy'n gwisgo'r mygydau gwell - sy'n cael eu hadnabod fel masgiau FFP2 ac FFP3.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canllawiau PPE "wastad yn cael ei adolygu".

Mae'r RCN a'r BMA wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yr wythnos hon, ac mae undeb Unsain - sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd - yn cefnogi'r alwad.

Beth yw'r canllawiau presennol?

Fe wnaeth astudiaeth yn gynharach eleni ganfod bod safon y mygydau mae staff iechyd yn ei wisgo yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w risg o ddal Covid.

Ond mae'r canllawiau ar gyfer y DU yn dweud y dylid gwisgo masgiau FFP3 pan fo aer yn cael ei chwistrellu yn unig, neu pan fo asesiad risg yn lleol yn awgrymu bod eu hangen.

Barn y BMA yw y dylai masgiau FFP3 gael eu defnyddio gan unrhyw un sy'n delio gyda chleifion Covid, a masgiau FFP2 ym mhobman arall mewn ysbytai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Masgiau FFP3 (ar y dde) o'i gymharu â masg llawfeddygol (ar y chwith) sy'n deneuach ac yn rhatach

Dywedodd Nicky Hughes o RCN Cymru eu bod wedi annog Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal "adolygiad brys" o'r canllawiau PPE.

Ychwanegodd eu bod wedi galw am hynny ers blwyddyn bellach er mwyn "cynyddu diogelwch ar gyfer staff a chleifion".

"Gydag amrywiolyn Omicron yn trosglwyddo'n haws, mae'n allweddol ein bod yn cadw gweithwyr y GIG yn ddiogel ac ry'n ni'n awyddus i gael penderfyniad sydyn i wella argaeledd masgiau FFP2 ac FFP3," meddai.

'Angen diogelu'r gweithlu'

Dywedodd cadeirydd BMA Cymru, Dr David Bailey ei fod yn credu bod prif swyddogion meddygol y DU yn trafod newid y canllawiau.

Ychwanegodd ei fod yn rhwystredig nad yw'r newid wedi'i wneud eisoes.

"Mae angen i ni ddiogelu'r gweithlu. Mae angen i ni sicrhau nad ydyn nhw'n gorfod bod i ffwrdd yn sâl hyd yn oed gyda symptomau ysgafn," meddai.

"Mae angen i ni werthfawrogi'r ffaith mai ysbytai a meddygfeydd ydy'r union lefydd ble mae'r bobl fwyaf bregus yn y perygl mwyaf, ac mae angen i ni wneud popeth ry'n ni'n gallu yn yr amgylchiadau hynny i leihau'r siawns eu bod yn cael Covid."

Ffynhonnell y llun, Dr Eilir Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Eilir Hughes yn dymuno i holl weithwyr iechyd y GIG gael gwell masgiau i'w hamddiffyn rhag dal Covid-19

Mae nifer o feddygon wedi bod yn galw am wneud masgiau gwell yn gyffredin i holl staff iechyd hefyd.

Fe wnaeth un o'r rheiny, Dr Eilir Hughes o Nefyn, ganmol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ddiweddar am wneud y masgiau FFP ar gael i fwy o staff, gan alw ar fyrddau iechyd i ddilyn eu hesiampl.

Dywedodd Sue Green o'r bwrdd iechyd eu bod yn "mynd tu hwnt i ganllawiau Llywodraeth Cymru".

'Blaenoriaeth bwysig i ni'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi cwrdd â'r BMA i drafod nifer o faterion, gan gynnwys PPE i amddiffyn holl weithwyr iechyd a gofal Cymru.

"Mae gennym ganllawiau clir i staff sy'n dod i gysylltiad â chleifion neu ddefnyddwyr y gwasanaeth, ac mae hyn wastad yn cael ei adolygu.

"Mae sicrhau fod gan holl staff iechyd a gofal y PPE cywir yn flaenoriaeth bwysig i ni, ac ers dechrau'r pandemig mae mwy na biliwn o eitemau PPE wedi cael ei roi ar draws gofal iechyd a chymdeithasol.

"Byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau cenedlaethol, sy'n ystyried tystiolaeth newydd yn ei gyngor i ni."