Etholiad 2021: 'Mae fy mhleidlais yn ddibynnol ar fasgiau'
- Cyhoeddwyd
Mae pleidlais un meddyg teulu yng ngogledd Cymru yn Etholiad y Senedd yn ddibynnol ar yr hyn y mae llawer o weithwyr iechyd yn ei wisgo bob dydd - masgiau.
Mae Dr Eilir Hughes yn galw am gael masgiau wyneb o ansawdd uchel i holl staff iechyd sy'n gofalu am gleifion Covid, o'r enw filtering face pieces (FFP3).
Ar hyn o bryd, dim ond masgiau llawfeddygol sy'n cael eu cynnig i rai staff sy'n gweithio gyda chleifion Covid.
Fel arfer, dim ond gweithwyr iechyd sy'n gwneud rhai gweithdrefnau meddygol penodol sy'n cael masgiau FFP3.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hi wedi bod yn dilyn cyngor swyddogol y DU.
Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddai'n cyflwyno masgiau FFP3 ar gyfer gweithwyr gofal iechyd os y bydden nhw'n profi'n fwy effeithiol, tra ddywedodd Plaid Cymru y byddai'n edrych i ddarparu'r "amddiffyniad gorau" i staff y GIG.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai'n "cynnal adolygiad" i'r mater ar ôl yr etholiad.
'Ddim yn ddigon da'
Dywedodd Dr Hughes, sy'n feddyg teulu yng Ngwynedd ac yn arweinydd Clwstwr Gofal Sylfaenol Dwyfor, bod masgiau llawfeddygol "ddim yn ddigon da, o gofio ein bod ni'n gwybod bod masgiau FFP3 yn rhoi gwell amddiffyniad".
Mae'r canllawiau diweddaraf, sef y rhai mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu dilyn, yn argymell defnyddio masgiau FFP3 dim ond pan fydd staff iechyd yn cynnal gweithdrefnau cynhyrchu aerosol - fel gosod tiwb i lawr y gwddf i helpu gydag anadlu - pan fydd risg o Covid.
Nid oes cefnogaeth ar gyfer defnydd ehangach o fasgiau FFP3, yn ôl canllawiau a gyhoeddwyd ar y cyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyrff iechyd y DU.
Dywedodd Dr Hughes: "Ni allwch fod yn feddyg, nyrs, neu'n weithiwr gofal iechyd a thrin pobl gyda hyd braich.
"Mae'n rhaid i chi fynd yn agos i ofalu am bobl, felly dylen nhw gael eu diogelu gystal â phosib.
"FFP3 yw be' ddylai staff sy'n gweithio ar wardiau Covid gael - os ydyn nhw'n gwneud gweithdrefnau cynhyrchu aerosol ai peidio.
"Yr unig amser nad yw cleifion Covid yn cynhyrchu aerosolau yw pan maen nhw wedi stopio anadlu.
"Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n hoffi rhoi diod i bob gweithiwr gofal iechyd yn y dafarn, ond byddai'n well gennym gael ein diogelu'n iawn."
Ym mis Ionawr, roedd llythyr agored gan fwy na 1,500 o weithwyr iechyd proffesiynol yn galw am i staff y GIG ar wardiau cyffredinol gael y masgiau FFP3, sydd fel arfer yn cael eu gwisgo mewn unedau gofal dwys yn unig.
Y mis canlynol, ysgrifennodd Cymdeithas Feddygol Prydain at Lywodraeth Cymru yn galw am sicrhau bod masgiau FFP2 a FFP3 ar gael i holl weithwyr iechyd rheng flaen.
Ac ym mis Mawrth, dywedodd arweinwyr nyrsio fod yr argymhellion offer PPE presennol yn seiliedig ar dystiolaeth sydd bellach wedi dyddio.
Dywedodd Dr Hughes, sydd wedi bod yn rhan o Fresh Air NHS a Fresh Air Wales, grwpiau sy'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd awyru i leihau lledaeniad o Covid-19, fod gan y defnydd o fasgiau llawfeddygol oblygiadau ar iechyd staff y GIG a'u teuluoedd hefyd.
"Rydyn ni wedi cael llawer o farwolaethau ymhlith gweithwyr gofal iechyd. Mae llawer wedi cael Covid hir ac mae llawer wedi mynd off yn sâl ar ryw adeg," ychwanegodd.
"Os ydych chi'n rhoi gwell amddiffyniad i ni, mae'r tebygolrwydd o staff yn cael Covid ac yn mynd yn sâl yn llai."
Mae cenhedloedd eraill wedi cymryd camau i gyflwyno masgiau clinigol ym mywyd beunyddiol, fel Yr Almaen lle mae masgiau FFP2 yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Beth mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud?
Dywed adroddiadau mewn sawl cyfnodolyn meddygol, fel The Lancet, ei bod wedi dod yn amlwg bod y coronafeirws yn lledaenu'n bennaf rhwng pobl sy'n agos at ei gilydd drwy eu hanadl.
Mae person heintiedig yn cynhyrchu llawer o ronynnau anadlol firaol bach - defnynnau neu aerosolau - y gellir eu lledaenu wrth anadlu, gweiddi, tisian neu besychu, a'u hanadlu gan rywun arall.
Yn y cyfamser mae gweithwyr gofal iechyd sy'n gwisgo masgiau llawfeddygol wedi cael eu heintio heb fod yn rhan o weithdrefnau cynhyrchu aerosol, yn ôl y British Medical Journal.
Beth mae pleidiau gwleidyddol Cymru yn ei ddweud?
Dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru: "Rydym yn dilyn y gofynion PPE a nodir yn y canllawiau Atal a Rheoli Heintiau, sef y canllawiau swyddogol sy'n cael eu defnyddio ar draws pedair gwlad y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae angen i unrhyw bolisi ar fasgiau gael ei yrru gan wyddoniaeth.
"Os bydd masgiau FFP3 yn cael eu canfod i fod yn fwy effeithiol na masgiau llawfeddygol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, yna dylai'r llywodraeth a byrddau iechyd sicrhau mai dyna y byddent yn ei roi i weithwyr gofal iechyd."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru ac ymgeisydd Senedd Cymru ar gyfer Ynys Môn: "Gan ein bod wedi bod yn dysgu pethau newydd am y coronafeirws, mae'n iawn y dylai newid tystiolaeth arwain at newid manylebau ar gyfer offer amddiffyn personol, yn enwedig ar wardiau Covid."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig eu bod am "wrando ar staff ac arbenigwyr a sicrhau bod ein staff meddygol arwrol yn cael popeth maen nhw ei angen i fod yn saff tra'n cyflawni eu dyletswydd ar y rheng flaen .
"Yn hynny o beth, fe fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal adolygiad wedi'r etholiad i'r canllaw mewn perthynas â'r defnydd o fasgiau FFP3 gan bob weithiwr meddygol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021