Y Bencampwriaeth: Birmingham 2-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Troy Deeney's fourth goal for Birmingham City was his second in successive SaturdaysFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Birmingham a sgoriodd y goliau cyntaf gyntaf ond yna fe darodd yr Adar Gleision yn ôl

Roedd Birmingham a Chaerdydd yn gymharol gyfartal gydol munudau cyntaf eu gêm brynhawn Sadwrn - y naill a'r llall wedi cael cyfleoedd.

Yna collodd yr Adar Gleision eu gallu i ganolbwyntio am eiliad wrth i golwr Birmingham weld cyfle i ryddhau Troy Deeney yng nghanol cae.

Fe dwyllodd yntau Perry Ng ac yr oedd Deeney yn rhydd ac fe blannodd y bêl yn y rhwyd.

Wedi'r gôl honno roedd Birmingham mewn rheolaeth a chyda gwrthymosodiad cyflym roedd Deeney a Riley Patrick McGree wedi gofalu fod y bêl wrth draed Ivan Sunjic ac roedd Birmingham ddwy gôl ar y blaen wrth i'r hanner cyntaf ddod i ben.

Wedi ychydig dros awr fe ddaeth llygedyn o obaith i Gaerdydd wrth i Kieffer Moore sgorio wedi croesiad gan Mark Harris.

Yna funud heibio'r 90 munud daeth cic gornel gan Joe Ralls ac fe gododd Mark McGuinness i gyfarfod y croesiad a hawlio'r peniad a rhwydo - roedd hi'n gyfartal yn St Andrew's.

Erbyn hynny roedd Caerdydd wedi deffro drwyddynt ond fe ddaeth y chwiban olaf a'r ddau dim yn hawlio pwynt yr un.