Bad Wolf: Sony'n buddsoddi £50m i brynu mwyafrif y cwmni Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Ffilmio His Dark MaterialsFfynhonnell y llun, BBC/HBO/Bad Wolf
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2015 mae Bad Wolf wedi cynhyrchu cyfresi His Dark Materials, Industry, ac A Discovery of Witches i'r BBC a Sky

Gall buddsoddiad o dros £50m yn y cwmni Cymreig a greodd y gyfres His Dark Materials arwain iddo fod yn gynhyrchydd drama fwyaf Ewrop, yn ôl pennaeth cangen ryngwladol Sony Pictures.

Dywedodd Bad Wolf y byddai'r penderfyniad i werthu mwyafrif y cwmni i Sony yn caniatáu iddo ehangu.

Nid yw Bad Wolf wedi cyrraedd ei "anterth," yn ôl Wayne Garvie o Sony.

Bad Wolf ydy cwmni cynhyrchu mwyaf y DU y tu allan i Lundain, a bydd yn cyd-gynhyrchu Doctor Who gyda'r BBC o 2023.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod Sony Pictures yn buddsoddi rhwng £50m a £60m yn Bad Wolf.

Gweithiodd llywydd cynhyrchu rhyngwladol Sony Pictures, Wayne Garvie, gyda sylfaenwyr Bad Wolf, Jane Tranter a Julie Gardner, pan oeddent i gyd yn cael eu cyflogi gan y BBC.

Disgrifiad o’r llun,

Llywydd cynhyrchu rhyngwladol Sony Pictures, Wayne Garvie, gydag un o sylfaenwyr Bad Wolf, Jane Tranter

Roedd Tranter a Gardner yn gyfrifol am ddod â chynhyrchiad Doctor Who i Gaerdydd yn 2005, a dywedodd y ddwy bod y profiad hwnnw yn un o'r rhesymau pam y gwnaethon nhw sefydlu Bad Wolf yn y ddinas yn 2015.

Mae'r enw Bad Wolf yn cyfeirio at endid yn y gyfres gyntaf o Doctor Who a wnaed yng Nghymru.

Ers 2015 maen nhw wedi cynhyrchu cyfres Philip Pullman, His Dark Materials, a'r ddrama Industry ar gyfer y BBC, yn ogystal â chyfres A Discovery of Witches ar gyfer Sky.

Bydd y cwmni'n dychwelyd i'w wreiddiau pan fydd yn cyd-gynhyrchu Doctor Who gyda'r BBC o 2023.

'Angerdd dros Gymru yn ddeniadol'

Wrth siarad â BBC Cymru ar ôl ymweld â Bad Wolf yng Nghaerdydd, dywedodd Mr Garvie fod Bad Wolf yn gyfle anhygoel o ddeniadol i Sony.

"Rydyn ni wedi buddsoddi mewn cwmni nad yw wedi cyrraedd ei anterth eto," meddai Mr Garvie.

"Mae gennym ni gwmni [arall] o'r enw Left Bank Pictures sy'n gwneud The Crown, efallai 'da chi wedi'i wylio, a hwnnw ydy cwmni drama fwyaf Prydain. Ac fe wnaethon ni adeiladu'r cwmni hwnnw ynghyd â sylfaenwyr Left Bank dros wyth mlynedd.

Ffynhonnell y llun, BBC/HBO/Bad Wolf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi "rhoi diwydiannau sgrin Cymru ar y map," meddai Tom Ware o Brifysgol De Cymru

"Ac rydyn ni eisiau gwneud yr un peth â Bad Wolf. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai, neu na allai, Bad Wolf fod y cynhyrchydd drama mwyaf ym Mhrydain ac yn Ewrop. A dyna ein huchelgais."

Mae gan Sony hanes o fuddsoddi yn niwydiant Cymreig, ar ôl sefydlu ffatri i adeiladu setiau teledu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn y 1970au.

Dywedodd Mr Garvie fod hanes diweddar Cymru o gynhyrchu teledu a ffilm Saesneg o safon uchel wedi helpu'r penderfyniad i fuddsoddi yn Bad Wolf.

"Un o'r pethau a oedd yn ddeniadol iawn i ni am Bad Wolf oedd yr angerdd oedd ganddyn nhw dros Gymru, y bobl yng Nghymru a'u hymrwymiad i Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Garvie fod Bad Wolf yn gyfle anhygoel o ddeniadol i Sony

"Mae gan Sony gryn dipyn o fusnes eisoes yng Nghymru. Mae gennym ganolfan weithgynhyrchu ac arloesi gwych ger Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gan un o fy nghwmnïau, Whisper Productions, swyddfa fach yng Nghymru. Ac rydyn ni'n ffilmio Sex Education, un arall o'n sioeau ni, yng Nghymru.

"Felly rydyn ni eisoes yn gwneud llawer, ac rydyn ni'n wirioneddol ymwybodol o'r sgiliau yng Nghymru. Mae'n wych bod yn rhan o allu gwneud newid economaidd a chymdeithasol yma."

Cymryd y cam nesaf

Mae Bad Wolf newydd gwblhau cynhyrchu'r ail gyfres o Industry ar gyfer y BBC.

Dywedodd Jane Tranter, prif weithredwr Bad Wolf, ei bod wedi ystyried nifer o gynigion gan fuddsoddwyr, ond bod Sony yn cynnig y gefnogaeth a'r cyfleoedd gorau i ehangu.

Ffynhonnell y llun, BBC/HBO/Bad Wolf
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wrthi'n ystyried pa "straeon fawr" hoffen nhw eu hadrodd nesaf

"Mae'r math o ddramâu teledu y mae Bad Wolf yn eu cynhyrchu yn enfawr. Mae'n beth brawychus iawn i'w wneud," meddai. "Rydyn ni wrth ein boddau yn eu creu nhw, ac rydyn ni eisiau mynd ymlaen a gwneud mwy o gyfresi.

"Ond daw pwynt pan mae'n rhaid i ni gydnabod bod angen i ni fynd â phartner a chydweithredwr a buddsoddwr gyda ni ar y siwrnai honno, er mwyn cynhyrchu ar raddfa ac uchelgais gynyddol."

Dywedodd Ms Tranter y byddai profiad Sony yn helpu i "sefydlogi" y cwmni, a'i bod am i'r buddsoddiad ei yrru i oes newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd buddsoddiad Sony yn galluogi Bad Wolf i "gynhyrchu ar raddfa ac uchelgais gynyddol," meddai Jane Tranter

"Roeddem yn teimlo bod gan Sony y bobl, y sgiliau, y profiad a'r uchelgais fyd-eang a fyddai wir yn caniatáu i Bad Wolf fynd i mewn i gam nesaf ei daith," meddai.

Doedd Jane Tranter ddim am ddatgelu cynlluniau ar gyfer cynyrchiadau'r dyfodol, ond dywedodd fod y cwmni'n asesu beth oedd "y straeon mawr nesaf rydyn ni'n mynd i'w hadrodd".

Ychwanegodd: "Mae drama deledu yn cymryd amser, i ddod o hyd i'r syniad a'i ddatblygu, a dyna'r union broses rydyn ni'n mynd drwyddi ar hyn o bryd."

'Rhoi diwydiant sgrin Cymru ar y map'

Dywedodd Tom Ware, cyfarwyddwr cynhyrchu a pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru, fod dyfodiad Bad Wolf wedi rhoi hwb i'r diwydiannau creadigol.

Meddai: "Mae'r math o gynnwys maen nhw'n ei gynhyrchu - dramâu teledu mawr, safon uchel y gellir eu dosbarthu'n fyd-eang - wedi rhoi diwydiannau sgrin Cymru ar y map.

Ffynhonnell y llun, BBC/HBO/Bad Wolf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bad Wolf wedi rhoi "hwb" i economi Cymru, meddai Mr Ware

"Mae hefyd wedi cyfrannu'n aruthrol at ddatblygiad talent ar draws ystod eang o feysydd - cynhyrchu yn amlwg, ond hefyd animeiddio, effeithiau gweledol a llawer o feysydd eraill o'r diwydiannau sgrin a oedd yma cyn iddynt ddod, ond bod presenoldeb Bad Wolf wedi rhoi hwb i nhw ddatblygu ymhellach."

Er mwyn mynd i'r afael â phrinder criwiau mae Bad Wolf wedi datblygu ei hyfforddiant ei hun ac wedi gweithio gyda darparwyr addysg i recriwtio staff newydd.

Dywedodd Tom Ware fod dros gant o raddedigion o Brifysgol De Cymru wedi mynd ymlaen i weithio yn y cwmni cynhyrchu.

Ychwanegodd: "Mae ein perthynas â Bad Wolf wedi bod yn wych i ni. Mae wedi bod yn wych i bob sefydliad addysgol yng Nghymru, ond yn fwy 'na hynny mae wedi bod yn hwb enfawr i economi Cymru."