Menyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchdro ar bwys Parc Fictoria
Mae menyw leol wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn ardal Treganna, Caerdydd.
Bu farw'r fenyw 39 oed, oedd yn cerdded cyn y digwyddiad tua 14:15 brynhawn Gwener, 26 Tachwedd, yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Roedd cerbyd pick-up VW Amarok yn rhan o'r gwrthdrawiad ar gylchdro Thompson Avenue a Windway Avenue ar bwys Parc Fictoria.
Cafodd dyn 45 oed o ardal Treganna ei arestio ar amheuaeth o fod yn anghymwys i yrru tra dan ddylanwad cyffuriau, a'i ryddhau dan ymchwiliad.
Mae Heddlu De Cymru'n awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r cerbyd yn y cyfnod cyn y digwyddiad, neu'n sy'n gallu cynnig lluniau all fod o gymorth i'w hymchwiliad.