30 mlynedd ers i Wrecsam drechu Arsenal yng Nghwpan FA Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Waynne PhillipsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Waynne Phillips yn dathlu buddugoliaeth Wrecsam dros Arsenal

"Wneith neb byth anghofio'r diwrnod yna 'nôl ym mis Ionawr 1992."

Yn sicr mae'r atgofion yn felys iawn i Waynne Phillips. Roedd yn aelod o dîm Wrecsam drechodd Arsenal yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr 30 mlynedd yn ôl i ddydd Mawrth.

Doedd fawr neb wedi rhoi cyfle i Wrecsam pan gafodd yr enwau eu tynnu o'r het.

Wedi'r cyfan, y tymor blaenorol, tra bod Arsenal wedi cipio pencampwriaeth yr hen Adran Gyntaf, roedd Wrecsam wedi gorffen ar waelod Cynghrair Pêl Droed Lloegr - yr olaf o'r 92 clwb.

Yn ffodus i Wrecsam roedd y gweinyddwyr pêl-droed wedi penderfynu na fyddai'r un tîm yn disgyn o'r gynghrair y tymor hwnnw.

'Gagendor'

"Allai'r gagendor ddim fod wedi bod yn fwy," meddai'r sylwebydd pêl-droed Nic Parry.

Roedd tîm Arsenal yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol megis y golwr David Seaman, Tony Adams yr amddiffynnwr a'r ymosodwr Alan Smith.

"Enillon nhw'r gynghrair gan golli un gêm yn unig," meddai'r darlledwr Dylan Ebenezer, cefnogwr brwd Arsenal - un Cymro ar y Cae Ras y diwrnod hwnnw doedd ddim yn cefnogi Wrecsam.

"Er gwaetha'r llwyddiant ar y pryd… roedd 'na ryw deimlad bach ar waelod fy stumog y gallai pethau fynd yn flêr."

Mickey Thomas yn ei chanol hi yn erbyn chwaraewr canol cae Arsenal, y diweddar David RocastleFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mickey Thomas yn ei chanol hi yn erbyn chwaraewr canol cae Arsenal, y diweddar David Rocastle

Roedd Phillips, oedd yn 21 oed ar y pryd, ymysg nifer o chwaraewyr ifanc oedd wedi derbyn cyfle gan y rheolwr Brian Flynn.

Yn ychwanegiad i'r talent ifanc, roedd Flynn wedi arwyddo dau o'i gyn gyd-chwaraewyr rhyngwladol - Mickey Thomas a Gordon Davies - y ddau yn eu 30au hwyr.

Arsenal, dan reolaeth George Graham, oedd y ffefrynnau clir i ennill y gêm ac roedden nhw'n llwyr reoli yn ystod yr hanner cyntaf.

"Buasai'n hawdd fod wedi bod yn bump neu chwech ac mi fuasai wedi bod yn bnawn hawdd iddyn nhw yn yr ail hanner," meddai Phillips.

Dim ond yr un gôl sgoriodd Arsenal yn ystod yr hanner cyntaf ar y Cae Ras, gyda Smith yn rhwydo funud cyn yr egwyl.

'Gad o i mi'

Roedd Wrecsam yn parhau yn y gêm, gyda Flynn yn dweud wrth ei chwaraewyr ar yr egwyl y gall yr annisgwyl ddigwydd yn yr ail hanner.

Gydag wyth munud yn weddill, gydag Arsenal yn parhau ar y blaen o 1-0, dyfarnwyd cic rydd i Wrecsam ychydig y tu allan i'r cwrt cosbi.

"Doedd hi ddim yn gic rydd," meddai Dylan Ebenezer. "Dwi dal yn mynnu doedd dim trosedd a bod y penderfyniad yn un anghywir."

Phillips a Thomas safodd dros y bêl wrth i chwaraewyr Arsenal baratoi'r mur amddiffynnol.

Wrecsam v ArsenalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Steve Watkin sgoriodd y gôl fuddugol i Wrecsam ar y diwrnod cofiadwy hwnnw yn Ionawr 1992

Ond roedd un dyn yn benderfynol o gymryd y gic, ac nid Waynne Phillips oedd hwnnw.

"Ges i ddim y cyfle achos dwi'n cofio geiriau Mickey - 'gad o i mi' - a chyn ges i'r siawns i ddadlau hefo fo mi oedd o'n rhedeg i fyny," ychwanegodd Phillips.

Sgoriodd Thomas gyda chwip o ergyd - doedd dim y gallai Seaman ei wneud i'w harbed.

Roedd Wrecsam wedi unioni'r sgôr ac fe fyddai hynny yn sicrhau gêm ail chwarae ar faes Highbury yr wythnos ganlynol, a hwb mawr i goffrau'r clwb o ogledd-ddwyrain Cymru.

'Aghrediniaeth lwyr'

Ond o fewn dau funud roedd Wrecsam wedi mynd ar y blaen yn dilyn camgymeriad gan Tony Adams.

"Y bel yn disgyn i Steve Watkin ac yna gôl scruffy," meddai Nic Parry, oedd yn rhan o dîm sylwebu Radio Cymru ar y Cae Ras y diwrnod hwnnw.

"Mi ddylen ni fod yn sôn llawer iawn, iawn mwy amdani achos honno mewn gwirionedd yw'r rheswm ein bod ni dal i gofio'r stori yma 30 o flynyddoedd wedyn.

"Be dwi'n gofio, ar wahân i'r goliau, yw'r anghrediniaeth lwyr oedd ar wynebau'r cefnogwyr."

Llwyddodd Wrecsam i ddal ymlaen, gan sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.

"Roedd y dathliadau ar y Cae Ras yn wych," meddai Phillips.

"Daeth y dorf dros y ffensys ac ar y maes. Mi 'naeth hi gymryd dipyn o amser i ni gyrraedd yr ystafell newid.

"Dwi erioed wedi gweld gymaint o gamerâu teledu yn yr ystafell newid."