Cefnogaeth yn allweddol i agor tafarndai cymunedol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Lwcus' bod gymaint o gefnogaeth i ailagor tafarn

Er gwaethaf cysgod Covid, mae rhagor o dafarndai cymunedol yn agor yng Nghymru gyda thafarn yng nghyffiniau Caernarfon nawr unwaith eto'n estyn croeso i'r cyhoedd.

Fe ailagorodd y Ty'n Llan yn Llandwrog nos Wener, ar ôl i'r gymuned godi dros £460,000 drwy werthu cyfranddaliadau.

Fe gaeodd y dafarn yn 2017 ond dim ond eleni, yng nghyfnod y pandemig, y llwyddodd pobl y pentre' i'w phrynu.

Ac mae tafarndai cymunedol eraill wedi cael cymorth cymunedau lleol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Pobl leol yn ardal Llandwrog ydy perchnogion newydd tafarn Ty'n Llan

Mae Tafarn Ty'n Llan wedi bod yn Llandwrog ers 1830.

Ond wedi cau am y pedair blynedd diweddara', mi all pobl y pentre' fynd i'w tafarn leol.

"Dan ni di cael agor ein tafarn gymunedol o'r diwedd ers i ni brynu fo ym mis Mehefin," meddai Wyn Roberts, aelod o bwyllgor Menter Ty'n Llan.

"Wnaethon ni ddechrau'r ymgyrch i brynu'r dafarn ddechrau'r flwyddyn. Fe wnaethon ni ddod at ein gilydd fel pentre' fis Chwefror, dros Zoom, i drafod beth oeddan ni'n mynd i wneud gan fod y dafarn ar werth.

"Erbyn Mehefin wnaethon ni godi digon o arian i brynu'r dafarn, ac ers hynny dan ni di bod wrthi'n trio gwneud y lle i fyny, yn paentio, yn llnau, yn cael y lle'n barod fel bod gynnon ni dafarn yn ôl yn y pentre'."

Er cystal yr ymdrech i godi arian, mae Wyn yn cydnabod y bydd angen mwy eto, gan fod rhagor o waith i'w wneud.

"Y bwriad dros y misoedd nesa ydi casglu mwy o bres drwy'r grantiau fel bod ni'n medru gwneud estyniad ar y cefn ac agor bwyty iawn yma, ac mi fydd na stafelloedd fyny grisiau hefyd fel bod pobl yn medru aros yma hefyd."

Ffynhonnell y llun, Ty'n Llan
Disgrifiad o’r llun,

Fe ailagorodd y Ty'n Llan mewn pryd ar gyfer y penwythnos olaf cyn y Nadolig

Mae tafarnau cymunedol yn blaguro mewn sawl rhan o Gymru bellach.

Mae pobl yn Nyffryn Aeron wedi llwyddo i godi dros £300,000 i brynu Tafarn y Vale.

Er nad ydy'r dafarn wedi ailagor eto, yn ôl y Trysorydd Keith Henson, mae'n agosáu bob dydd.

"Mae'n bleser i weud bod ni wedi bwrw'r targed... ni'n dal i ddisgwyl arian i ddod mewn ond y'n ni wedi bwrw'r targed o ran cael digon mewn i brynu'r lle.

"O ran ailagor, yn ni yn gobeithio o fewn y misoedd nesa - falla eith hi'n fis Mawrth cyn bod ni'n gallu gwneud hynny'n iawn."

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr Tafarn y Vale ger Felin-fach wedi llwyddo i godi digon o arian i'w phrynu yn ddiweddar

"Mae'n rhaid edrych wedyn ar iechyd a diogelwch y lle, adnewyddu ambell i beth falla, a sicrhau wedyn bod pobl yn gallu cael mynediad 'na, sy'n hwyluso'r peth i gyd wedyn er mwyn cael creu rhyw ddigwyddiadau arbennig yn y gymuned wedyn."

Canmol yr ymdrechion hynny mae Cymdeithas Cwrw a Thafarnau Cymru.

Maen nhw yn dweud bod "tafarnau wrth galon ein cymunedau, ac felly mae'n wych gweld pobl yn dod ynghyd i'w cefnogi.

"Nawr yn fwy nag erioed mae tafarnau angen cefnogaeth eu cwsmeriaid a'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu."

Pynciau cysylltiedig