Tafarn y Vale: Pasio targed £330,000 i brynu tafarn leol

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y ValeFfynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y criw wedi gosod nod o godi £330,000 i brynu Tafarn y Vale erbyn y Nadolig

Mae cymuned yn Nyffryn Aeron wedi llwyddo i gyrraedd ei tharged o £330,000 er mwyn prynu tafarn leol.

Cafodd yr arian ei godi trwy werthu cyfranddaliadau yn Nhafarn y Vale ger Felin-fach i'r cyhoedd.

Wedi i dros 600 o bobl brynu cyfranddaliadau, y nod yw agor y dafarn dan eiddo'r gymuned a'i rhedeg fel cwmni cydweithredol yn y gwanwyn.

Mae maint y gefnogaeth "yn galondid enfawr i ni wrth edrych tuag at bennod newydd a chyffrous yn hanes y Vale," meddai cadeirydd Menter y Vale.

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gefnogaeth wedi bod yn "galondid enfawr" i'r menter

"Mae'n tymor ewyllys da ac hoffwn i ddiolch i bawb am yr holl gefnogaeth ac ewyllys da sydd wedi eu cyfeirio tuag at Menter y Vale yn ystod yr wythnosau diwethaf," dywedodd Iwan Thomas.

"Mae wedi bod yn dipyn o siwrne."

Llwyddodd y gymuned i godi'r 5% olaf ddydd Sul, sef y diwrnod olaf i bobl fedru buddsoddi.

Bydd y fenter yn cyhoeddi'r cyfanswm gafodd ei godi ddechrau'r wythnos.

"Mae haelioni pobl wedi achosi sawl deigryn yn y Vale heddi," ysgrifennodd y grŵp oedd yn arwain yr ymgyrch, Menter y Vale, ar Facebook.

Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at brynu'r adeilad, talu'r costau cyfreithiol a chostau gwaith atgyweirio ac adnewyddu.

Roedd modd i bobl fuddsoddi o leiaf £200, gydag uchafswm o £30,000.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Menter Tafarn Dyffryn Aeron

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Menter Tafarn Dyffryn Aeron

Yn ôl Menter y Vale, cafodd bron i £42,000 ei godi ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch ym mis Tachwedd.

Fe wnaeth Menter y Vale ddenu cefnogaeth gan sawl wyneb cyfarwydd, gan gynnwys Rhys Ifans, Matthew Rhys a Huw Chiswell.

Dywedodd Iwan Thomas, Cadeirydd Menter y Vale, fod yna "risg o golli cymuned" heb y dafarn.

"Tafarn y Vale yw'n local ni." meddai. "O'n ni'n gw'bod bod 'na risg o golli tafarn fan hyn, risg o golli cymuned hefyd.

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Chiswell a Rhys Ifans ymhlith yr enwogion a fynegodd cefnogaeth i ymdrech Menter y Vale

"Yn bwysicach, o'n ni'n gw'bod bod 'na le am brosiect cymunedol - felly dyma ni'n meddwl pam ddim mynd amdani.

Dywedodd fod llwyddiant mentrau tebyg yn ddiweddar wedi bod yn "sbardun" i lansio'r ymgyrch.

Llwyddodd menter gymunedol i brynu Tafarn Ty'n Llan, Llandwrog i godi dros £400,000 o gyfranddaliadau ym mis Mehefin eleni.

Pynciau cysylltiedig