Gohirio gwasanaeth post yn costio £150,000 i'r Sgowtiaid
- Cyhoeddwyd
Mae gorfod gohirio'u gwasanaeth post dros gyfnod y Nadolig yn costio £150,000 y flwyddyn i fudiad y Sgowtiaid yng Nghaerdydd a'r Fro.
Maen nhw wedi bod yn dosbarthu cardiau Nadolig i bobl ers tua 40 mlynedd.
Ond mae'r pandemig wedi golygu nad ydyn nhw'n gallu cynnig y gwasanaeth eleni am yr ail flwyddyn yn olynol.
"Mae wedi bod yn rili bwysig i ni jyst oherwydd faint o arian mae'n codi, a hebddo fe fydden ni'n methu rhedeg fel mudiad," meddai Gethin Ray, sy'n arweinydd gyda'r Sgowtiaid yn yr Eglwys Newydd.
"Rhywsut yn y ddwy flynedd ddiwetha' heb y Scout Post, ni dal yma."
Ymateb ddim cystal
Bu'r aelodau yn trefnu gweithgareddau codi arian arall, gan gynnwys gwerthu mygydau'r llynedd, ac maen nhw wedi trefnu ymgyrch ar-lein.
Ond yn ôl comisiynydd ardal Sgowtiaid Caerdydd a'r Fro, Julian Jordan, dyw'r ymateb i'r apêl honno ddim cystal eleni.
"Dwi'n credu bod pobl yn meddwl ein bod ni wedi symud mas o Covid, a'n bod ni'n symud ymlaen, felly dydyn ni ddim wedi gwneud mor dda," meddai.
Mae'n dweud bod colli'r gwasanaeth eto eleni yn ergyd, ac fe allai olygu gorfod codi mwy ar yr aelodau.
"Os nad ydyn ni'n gallu dychwelyd at redeg y gwasanaeth post o fewn y blynyddoedd nesa', fe fydd yn rhaid i ni ddyblu'r tâl aelodaeth lleol o'r £5 presennol i £10."
Dros y blynyddoedd diwetha', mae Sgowtiaid Caerdydd a'r Fro wedi bod yn dosbarthu 500,000 o gardiau'r flwyddyn, gydag 800 o wirfoddolwyr o 50 o grwpiau gwahanol yn gwneud y gwaith.
Fe fuon nhw'n dosbarthu cardiau o Laneirwg yn nwyrain Caerdydd draw i'r Bontfaen ym Mro Morgannwg, ac i'r gogledd i rannau o Gaerffili.
Mae Gethin Ray yn dweud bod y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi gan bobl.
"Mae'r stampiau yn tsiepach na Royal Mail felly mae pobl yn fwy tebygol o anfon cardiau a heb Scout Post mae llai o bobl yn dueddol o wneud e jyst oherwydd pris stampiau normal.
"Felly mae Scout Post yn rili bwysig i'r gymuned leol hefyd."