Tân difrifol mewn 'ffatri ganabis bosib'

  • Cyhoeddwyd
Ymladdwyr tân yng Ngabalfa
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mwy na 40 o ymladdwyr tân eu galw i'r adeilad ar Ffordd y Gogledd

Mae'n bosib bod adeilad yng Nghaerdydd a aeth ar dân yn gynnar ddydd Llun yn cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis, yn ôl Heddlu De Cymru.

Cafodd wyth criw tân eu galw mewn ymateb i'r tân mewn fflat ar lawr uchaf busnes masnachol ar Ffordd y Gogledd yng Ngabalfa am 03:45.

Bu'n rhaid gwagio'r adeiladau drws nesaf ond chafodd neb anaf.

Dywedodd yr heddlu bod yna dystiolaeth bod rhan uchaf yr adeilad wedi cael ei ddefnyddio i dyfu canabis.

Cafodd llawr uchaf ac atic yr eiddo eu dinistrio ond fe lwyddwyd i atal niwed difrifol i'r adeiladau drws nesaf.

Mae ymchwiliad yn parhau i achos y tân.

Pynciau cysylltiedig