Y parafeddygon sy'n ceisio cadw cleifion draw o ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bellach yn ceisio "cadw cleifion draw oddi wrth ysbytai" dros y gaeaf.
Dyma un o'r ffyrdd y mae'r gwasanaeth yn ceisio mynd i'r afael â'r amseroedd aros gwaethaf erioed mewn adrannau brys ysbytai.
Fel arfer, pan fo claf yn teimlo poen yn ei frest, mae'n rhaid mynd i'r ysbyty.
Ond ar ôl i Clive Pietzka, 63, ffonio am ambiwlans wedi iddo deimlo poenau, cafodd ei drin a'i ryddhau gan barafeddyg.
Dywedodd Mr Pietzka o'r Barri, sydd yn dioddef o broblem gyda'i galon nad oedd eisiau galw am ambiwlans.
"Maen nhw'n brysur iawn gyda Covid a phob dim arall. Ond dywedodd y meddyg teulu i alw 999," eglurodd.
"Cyrhaeddodd yr ambiwlans o fewn 15-20 munud, fe wnaeth y paramedic yr holl brofion a doedd dim rhaid i fi fynd i'r ysbyty. Roeddwn i'n hapus iawn."
Y tro yma, roedd yr ambiwlans yn gerbyd ymateb brys - car sy'n cael ei yrru gan un parafeddyg.
Mae John McAllister yn barafeddyg profiadol ac yn rhan o dîm sy'n tyfu o fewn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - sy'n gweithio i gadw pobl draw o'r ysbyty.
"Rwy'n gweld y galwadau yn dod mewn - y rhai sy'n fwy meddygol yn hytrach na galwadau brys," meddai.
"Dwi'n defnyddio technegau asesu i weld sut mae'r claf, ffurfio barn feddygol ac wedyn cynllunio i drin y claf.
"Y nod yw trin y claf ar yr amser cywir ac yn y lle cywir, heb orfod cludo nhw i'r adran frys."
Ar ôl gwneud asesiad trwyadl a phrofion priodol i helpu tawelu meddyliau'r ddau, dywedodd Mr McAllister fod Mr Pietzka yn "ddyn iachus".
"Dwi'n hapus ei fod e adref, mae e'n hapus i fod adref ac mae'r broses yma wedi rhyddhau ambiwlans a sicrhau nad oes rhaid dod o hyd i wely arall yn yr adran achosion brys."
Yn sgil ffigyrau swyddogol fis diwethaf dangosodd y perfformiad gwaethaf erioed unwaith eto mewn adrannau brys ysbytai, mae'r gwasanaeth yn chwilio am ffyrdd i ddatrys y broblem.
"Dwi'n credu bod pawb dan straen ar y foment," meddai Penny Durrant, rheolwr gwasanaeth cefnogaeth clinigol ym mhencadlys Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Nghwmbrân.
"Dyna pam mae'r ddesg cymorth clinigol yn tyfu - cydnabyddiaeth o'r angen i wneud rhywbeth gwahanol."
'Cyngor yn lle cymorth'
Mae'r tîm wedi'i leoli yn yr ystafell reoli, lle mae galwadau yn dod i fewn ac mae meddygon, parafeddygon, a nyrsys wrth law.
Maen nhw'n cysylltu â phobl sydd gan amlaf yn aros nifer o oriau am ambiwlans ac maen nhw'n ceisio darganfod os oes ffordd cynt a mwy diogel i'w trin.
"Mewn sawl achos dyw teithio i'r adran frys ddim yn addas iddyn nhw. Mae rhai pobl sy'n ffonio angen cyngor yn lle cymorth," meddai Ms Durrant.
"Gallet ti fod yn gwneud un neu ddwy alwad y dydd pan wyt ti mewn ambiwlans ar y ffordd. Tra bod rheiny ar y ddesg cymorth clinigol yn gallu delio â phedair galwad yr awr."
Mae Matthew Watkins yn barafeddyg sy'n gweithio ar y ddesg hefyd. Fe esboniodd ei brofiad o gymryd galwad gan fenyw feichiog oedd â Covid.
Ffoniodd hi'r gwasanaethau brys ar 999 oherwydd ei bod hi'n cael trafferthion anadlu.
Dywedodd wrth y fenyw bod angen iddi fynd i'r ysbyty y tro hwn.
Ond fe esboniodd iddi hi a'i phartner efallai byddai'n well pe bawn nhw'n ffeindio eu ffordd eu hunain i'r ysbyty yn hytrach nag aros rhwng tair a chwe awr ar gyfer ambiwlans.
Roedd yr ysbyty ond rhyw 10 munud o'i thŷ, meddai.
"Yn ffodus roedd teulu ar gael i helpu. Mae angen i bobl ddeall, os oes gennych chi gerbydau eich hunain, yna mae gwell gennym ni weld pobl yn cyrraedd yr ysbyty mewn da bryd yn hytrach nag aros am oriau ar gyfer ambiwlans."
Mae Nathan Maloney yn nyrs ar y ddesg cymorth clinigol. Mae hefyd yn gweithio'n achlysurol mewn adran frys.
Dywedodd bod 30% o'r galwadau gan bobl sydd ddim angen triniaeth yn yr ysbyty.
"Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal mwyaf addas, boed yn gymorth gan feddyg teulu, nyrs neu gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl," meddai.
Mae Mr Maloney yn apelio ar bobl i feddwl cyn ffonio am ambiwlans.
"Bydd rhai pobl yn ffonio achos maen nhw'n ei gweld yn anodd cael gafael ar eu meddyg teulu, ond dyw hwnna ddim yn ddigon o reswm i ffonio 999," meddai.
"Ond, mae meddygon teulu yn gweithio'n galed ac yn gweld llawer o bobl.
"Mae llawer o bryder ac mae pobl sydd wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19 yn ein ffonio ni am gyngor.
"Mae'n bwysig i dderbyn cyngor ond dylai galwadau 999 fod pan mae bywyd mewn perygl yn unig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2021
- Cyhoeddwyd11 Awst 2021