Amseroedd aros adrannau brys ac ambiwlansys ar eu gwaethaf eto

  • Cyhoeddwyd
ambiwlansysFfynhonnell y llun, EPA

Mae Cymru unwaith eto wedi cofnodi'r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed ar gyfer adrannau brys ysbytai a'r gwasanaeth ambiwlans, wrth i'r pwysau barhau ar y gwasanaeth iechyd.

Ym mis Hydref dangosodd ystadegau fod llai na 65% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau brys, tra bod bron i 9,500 o bobl wedi gorfod aros dros 12 awr - cynnydd o bron i 1,000 mewn mis.

Fis diwethaf dim ond hanner y galwadau coch - sydd yn golygu bygythiad i fywyd - y llwyddodd y gwasanaeth ambiwlans eu cyrraedd o fewn wyth munud.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos twf arall mewn rhestrau aros, gyda 668,801 o bobl yn aros am driniaeth ym mis Medi - mwy nag un o bob pump o boblogaeth Cymru.

Daw hyn wrth i gyfarwyddwr Conffederasiwn y GIG yng Nghymru - y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd - rybuddio fod prinder staff yn y sector gofal yn "her anferth" sy'n cynyddu pwysau ar adrannau brys a'r gwasanaeth ambiwlans.

Disgrifiad,

Eluned Morgan: Amseroedd aros "yn debygol o waethygu"

Mae hynny oherwydd fod adrannau brys yn llenwi pan nad oes digon o welyau yn rhydd ar wardiau ysbyty.

Yn ôl Darren Hughes, mae hyd at 15% o welyau ysbyty - cyfanswm o tua 1,400 - yn cael eu llenwi gan bobl sy'n ddigon iach i adael, ond sy'n aros i ofal gael ei drefnu ar gyfer eu cartref, yn y gymuned neu gartref gofal.

Adrannau brys

Dangosodd ffigyrau mis Hydref mai dim ond 64.9% oedd yn treulio llai na phedair awr mewn adran frys cyn cael eu hanfon adref neu eu trosglwyddo.

Mae hwn yn waeth nag unrhyw ffigwr sydd wedi'i gofnodi hyd yma, gan gynnwys y 66.8% ym mis Medi oedd eisoes yn record newydd.

Y targed cyffredinol yw y dylai 95% o gleifion orfod aros dim mwy na phedair awr.

Roedd ffigyrau hefyd yn dangos fod 9,484 o bobl wedi aros dros 12 awr mewn adran frys - yn ôl y targedau, ddylai neb fod yn aros mor hir â hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ambiwlansys

Ym mis Hydref dim ond 50% o alwadau coch i'r gwasanaeth ambiwlans gafodd eu hateb o fewn wyth munud - cwymp o'r 52.3% ym mis Medi, a'r canlyniad gwaethaf ers i'r targedau newydd gael eu cyflwyno yn 2015.

Y targed hwnnw yw 65%, ond dyw'r gwasanaeth heb lwyddo i gyrraedd hwnnw ers 15 mis.

Amseroedd aros

Dangosodd ffigyrau mis Medi fod 668,801 o bobl ar restrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru am driniaeth - y nifer uchaf erioed.

Roedd 240,306 o'r rheiny hefyd wedi bod yn aros dros 36 wythnos - neu naw mis - am driniaeth.

Mae hyn ychydig yn is na'r ffigwr o 243,674 fis diwethaf, ond mae dal naw gwaith yn uwch nag yr oedd ar ddechrau pandemig Covid-19.

Bryd hynny, ym mis Chwefror 2020, dim ond 25,534 o bobl oedd wedi bod yn aros dros naw mis am driniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i'r ystadegau dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn y GIG yng Nghymru, Darren Hughes fod y gwasanaeth iechyd yn wynebu "pwysau anghynaladwy o bob cyfeiriad", gan gynnwys gofal cymdeithasol, Covid-19 a'r galw cynyddol am driniaeth.

Ychwanegodd Mr Hughes ei fod yn "croesawu" cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o fuddsoddiad pellach mewn offer diagnostig, ond fod angen taclo "problemau staffio" os am wir fynd i'r afael ag amseroedd aros.

"Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda'r cyhoedd y bydd y gaeaf yma'n un anodd iawn," meddai.

"Mae'r system gyfan yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau, gwella llif cleifion, rheoli'r galw uchel a chadw pobl allan o'r ysbyty ble mae'n bosib.

"Ond mae pwysau ar y system yn uwch nag ar unrhyw bwynt yn ystod y pandemig."

'Methu beio'r pandemig yn llwyr'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffigyrau'n dangos pwysau "cynyddol" ar y gwasanaeth iechyd, gan gydnabod y gallai pethau fynd yn "anoddach" eto yn ystod y gaeaf.

"Rydyn ni wedi buddsoddi £248m yn ychwanegol eleni i drawsnewid ein darpariaeth o wasanaethau a thaclo amseroedd aros," meddai llefarydd.

"Ond oherwydd y pwysau parhaus ac effeithiau'r pandemig, dydyn ni ddim yn disgwyl gweld cynnydd mawr cyn y gwanwyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George, fod yr ystadegau'n "warthus" ac yn ganlyniad o "ddau ddegawd o benderfyniadau gwael a chamreoli" gan y blaid Lafur.

"Allwch chi ddim beio problemau hirdymor, fel toriad o 30% yn nifer y gwelyau, a'r 3,000 o swyddi gwag presennol, i gyd ar y pandemig," meddai.

Pynciau cysylltiedig