Pererindod newydd i safleoedd sanctaidd Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Gyda'r diddordeb mewn pererindota wedi tyfu yn ystod y pandemig, mae yna gynllun i greu llwybr newydd i bererinion rhwng Iwerddon a Sir Benfro.
Er bod pererindod yn cael ei chysylltu fel arfer gyda daliadau crefyddol mae Guy Hayward, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Pererindodau Prydain yn dweud bod y diddordeb wedi cynyddu y tu hwnt i ffiniau ffydd:
"Cyn i Covid daro, ro'n i yn siarad gyda gohebwyr teithio, ac roedden nhw i gyd yn dweud bod gwyliau heb hedfan ar y ffordd. Hyd yn oed cyn Covid, roedd pobl yn chwilio am ystyr newydd ac fe gyflymodd y broses."
Mae Guy Hayward yn amcangyfrif bod pererinion, pan maen nhw ar grwydr, yn gwario 42 ewro y dydd ar gyfartaledd. Mae hynny, meddai, dros ddwywaith yn uwch nag ymwelwyr cyffredin.
Partneriaeth dros y mor
Mae'r rhaglen Cysylltiadau Hynafol wedi ei noddi gan Gynghorau Sir Penfro a Swydd Llwch Garmon (Wexford), gyda chefnogaeth Ewropeaidd. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bartneriaid yn y cynllun. Tegryn Jones yw'r Prif Weithredwr :
"Mae yna hen hanes o bererindota yn yr ardal yma. Mae hi bron iawn yn 900 mlynedd ers i'r Pab ddweud fod dwy bererindod i Dyddewi yn gyfystyr ag un i Rufain. 'Ni'n rhoi gwedd fodern arno fe.
"Mae tipyn o farchnad a chyfle i bererinion o Gymru ac Iwerddon a thu hwnt i deithio ar y llwybrau hyn. Bydd y llwybr yn adnodd tymor hir sydd yn deillio allan o'r prosiect Cysylltiadau Hynafol."
Y bwriad yw dathlu'r cwlwm Celtaidd rhwng y ddwy wlad, a'r berthynas agos rhwng nawddsant Cymru a Sant Aeddan o Ferns yn Sir Llwch Garmon (Wexford). Mae Sir Benfro yn frith o safleoedd sydd o bwysigrwydd i Gristnogaeth cynnar yng Nghymru.
Y gred yw bod Dewi Sant wedi ei eni ar safle presennol Capel Non ar gyrion dinas Tyddewi yn ystod y 6ed ganrif. Mae ffynnon sanctaidd ar y safle, sydd yn ôl rhai, yn medru iachau. Nepell o'r safle mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Mae'n debyg bod Sant Aeddan wedi teithio o Iwerddon i Sir Benfro i astudio dan gyfarwyddyd Dewi Sant.
Dywedodd Dr Simon Rodway sy'n Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Ni'n gwybod bod Aeddan yn fath o ddisgybl neu yn gydymaith o rywfath i Ddewi Sant. Mae'r dystiolaeth o Gymru ac Iwerddon yn cadarnhau hynny.
"Mae'n debyg bod y ddau yn reit agos a bod Aeddan wedi treulio cyfnod yng Nghymru gyda Dewi ac wedi dychwelyd i Iwerddon i sefydlu mynachlog yn Ferns."
Cryfhau'r cwlwm Celtaidd
Fel rhywun sydd yn astudio'r cysylltiad rhwng y Wyddeleg a'r Gymraeg, mae Dr Rodway yn croesawu'r syniad o greu llwybr i bererinion rhwng y ddwy wlad
"Rwy'n credu bod e'n syniad gwych iawn. Rwy'n gweithio yn y maes ac yn astudio'r cysylltiadau rhwng Iwerddon a Chymru. Mae unrhyw beth sydd yn denu sylw'r cyhoedd am y cysylltiadau yma yn beth da."
Mae Iain Tweedale, cyfarwyddwr cwmni Journeying, yn arbenigo ar arwain teithiau cerdded i bererinion. Y bwriad meddai yw ail greu'r cysylltiadau hanesyddol a diwylliannol oedd yn bodoli flynyddoedd yn ôl trwy greu llwybr newydd i bererinion.
"Roedd Sant Aeddan yn ddisgybl i Dewi, ac yn ymweld ag e yng Nghymru, ac roedd Dewi yn ymweld gydag Aeddan yn Iwerddon. Roedd Môr Iwerddon fel traffordd yr M4 bryd hynny!
"Ni'n creu llwybr newydd i bererinion o Ferns yn Sir Wexford, i lawr yr arfordir i gyfeiriad Rosslare. Fe fydd pererinion wedyn yn gallu neidio ar y fferi i deithio draw i Abergwaun. Y bwriad wedyn yw cerdded o Abergwaun i Dyddewi. Taith o rhyw 130km i gyd," meddai.
Pererindod i bawb
Mae Christine Smith, Cyfarwyddwr cwmni teithio Guided Pilgrimage, yn credu yn gryf bod mynd ar bererindod o les mawr i unigolion hyd yn oed os nad ydyn nhw yn arddel crefydd.
"Mae'n denu pobl o bob math - yn enwedig pobl sydd ar groesffordd mewn bywyd. Pan maen nhw'n dod ar bererindod, maen nhw'n cael cyfle i gael seibiant o fywyd bob dydd, ac i weld bywyd o berspectif gwahanol.
"Ry'n ni cyfeirio at bererindod fel rhywbeth ysbrydol, nid crefyddol."
Yn Iwerddon, mae yna gryn ddiddordeb yn y syniad o gael llwybr newydd rhwng y ddwy wlad. John G O'Dwyer yw Cadeirydd Pilgrim Paths yn Iwerddon ac mae'n awdur ar lwybrau Pererinion yn Iwerddon.
"Rwy'n digwydd credu fod y potensial yn anferth. Mae gyda ni nifer o lwybrau pererinion yn Iwerddon, ond dyma'r cyntaf fydd yn cydnabod fod pererindota dramor yn rhywbeth pwysig iawn i'r Gwyddel yn ystod yr Oesoedd Canol.
"Fe fydd yna apel hefyd o gerdded mewn dwy wlad, ond heb orfod cerdded yn rhy bell. Mae gan y Gwyddelod berthynas arbennig gyda'r Albanwyr, y Cymry, pobl Cernyw a Llydaw am ein bod ni'n Geltiaid."