Creu celf o rewlifoedd Everest a Mont Blanc
- Cyhoeddwyd
Heb law am fentro fyny mynyddoedd Eryri yn ei ieuenctid doedd gan yr artist, cerflunydd a gemydd Sevan Garogosi, ddim profiad o fynydda go iawn, nid y math ble mae rhywun yn dringo rhewlif anferth gyda chramponau ar ei draed a bwyall yn ei law beth bynnag.
Yn ei fag cefn roedd ganddo gymysgedd o siliconau er mwyn creu beth a obeithiai oedd am droi yn fowld o rewlif mynydd yn yr Alpau yn Ffrainc. Y bwriad oedd dod a'r mowld yn ôl adref a chreu cerflun ar gyfer arddangosfa arbennig yn yr Royal Academy of Art yn The Hague yn yr Iseldiroedd.
Er doedd ganddo "ddim clem" be' oedd o'n gwneud y diwrnod hwnnw byddai'r canlyniad yn newid bywyd Sevan, 35, o Landdona, Ynys Môn, am byth.
Ers cynnal yr arbrawf yn 2014 mae'r cyn ddisgybl yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, yn parhau i greu gemwaith a cherfluniau trawiadol gan godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd yr un pryd.
Drwy cadw cofnod o'r rhewlifoedd hyn sydd yn meddalu oherwydd yr argyfwng mae Sevan yn gobeithio cynnal sgwrs am bwysigrwydd gwneud newid.
Mae bellach yn cael ei gynrychioli gan Clarendon Fine Art ac mae ganddo arddangosfa breifat ym Mayfair yn Llundain ers dechrau mis Rhagfyr. Dyma ei daith anghredadwy.
'Dim clem'
"Nes i ffonio fy chwaer a deud mae'n rhaid i fi fenthyg dy gar di - dwi angen mynd i'r Alps," meddai Sevan wrth gofio yn ôl i 2014.
"Roedd gen i ffrind o Lanberis oedd yn byw yno a nes i ddeud wrtho fo be oedd y syniad. Ag roedd o fel 'am be ddiawl ti'n sôn?'"
"Trystia fi, fydd o yn briliant," oedd ymateb Sevan. Rhyw wythnos ynghynt roedd o wedi derbyn galwad gan guradydd o'r Royal Academy of Art yn The Hague, Iseldiroedd, yn dweud fod ganddo dri mis i wneud gwaith hollol newydd doedd neb wedi gweld o'r blaen.
Teitl y prosiect oedd "Your Actions Have Consequences," oedd yn lleoli celf a'r argyfwng hinsawdd ochr yn ochr a'i gilydd, esbonia Sevan. Roedd y cyfle yn rhywbeth fyddai artistiaid ar draws y byd ddim ond yn breuddwydio amdano - arddangosfa unigol arbennig yn un o academïau celf mwyaf urddasol yn y byd.
"Yr eiliad wnaeth hi ddeud hynna'r peth cyntaf ddaeth i 'mhen i oedd glaciers. Y ffurf fwyaf llonydd a calm ond maen nhw mor bwerus - maen nhw'n immense. Maen nhw jest yn cerfio'r tirwedd allan o'r mynyddoedd ac roeddwn i yn obsessed efo hynna."
Roedd Sevan eisoes wedi cwblhau cwrs BA Celf a Dylunio yng Nghaerdydd ac fe dderbyniodd yr alwad fel iddo orffen cwrs Meistr mewn Celf Gywain yng Ngholeg Kingston yn Llundain lle'r oedd o wedi ennill gwobr arbennig am ei arddangosfa derfynol.
"Ro'n i y classic person ifanc yn syth allan o goleg yn dweud iawn wrth bob dim. Do'ni ddim efo clem be 'on i'n gwneud," meddai.
'Dydi hyn ddim yn gall'
"Doedd gen i ddim syniad os oedd o am weithio fy hun a doedd pobl ddim yn meddwl ei fod o am weithio chwaith," meddai Sevan.
"Pan es i ar y glacier ro'n i yn meddwl, mae hyn yn stupid, dydi hyn ddim yn gall. Roedd 'na avalanches a rockfalls yn llithro o fy nghwmpas."
Ar ben y rhewlif cymysgodd Sevan wahanol fathau o siliconau at ei gilydd yn y gobaith y byddai'r cemegau hyn yn creu'r mowld ac yn cadw siâp manwl gywir o wyneb y rhewlif.
"Wnaeth fi a fy ffrind ddod yn ôl bora nesa efo dim syniad os oedd o wedi gweithio… Roedd y rhewlif wedi symud 5cm ond roedd y mowld yn berffaith gyda fingerprint detail o siâp y rhewlif!
"Nes i ddarganfod ei fod yn gweithio, hyd yn oed ar ôl i bobl ddeud wrtha'i ei fod yn amhosib cymryd mowlds o'r rhewlifoedd.
"O'r pwynt yma nes i feddwl - reit ma' hwn yn mynd fyny mewn galeri a dyma dwi'n mynd i wneud o hyn ymlaen."
'Olion bysedd geo-hanesyddol'
Daeth Sevan a'r mowld yn ôl adref cyn creu cerfluniau allan o efydd ar gyfer yr arddangosfa yn yr Hague. Ar y diwrnod tyngedfennol fe ddisgynnodd un o'r rheiny ar y llawr a chwalu yn ddarnau.
"Oni'n gutted," meddai. Ond ar hap o friwsion dadfeilion y cerflun daeth syniad newydd i ben Sevan - sef i greu gemwaith allan o fowldiau rhewlifoedd.
Symudodd i Chamonix yng nghanol yr Alpau yn Ffrainc am gyfnod i barhau gyda'i waith a'i ymchwil a dechrau cwmni gemwaith cyn dychwelyd i ymgartrefu yng Nglyn Ebwy lle mae'n byw gyda'i gariad.
Ers blynyddoedd bellach mae'r artist yn hel mowldiau o rai o rewlifoedd mwyaf a peryclaf y byd ac yn eu troi mewn i fodrwyau, mwclis a cherfluniau. Gyda help llaw'r anturiaethwr Kenton Cool mae'r rhain yn cynnwys o wyneb rhewlif Khumbu ar Everest, Mer de Glace ar Mont Blanc, Gigjokull yng Ngwlad yr Ia a mynyddoedd yn y Swistir, yr Eidal a mwy.
Mae cyfeiriad GPS manwl gywir pob un o be mae'n alw'n 'olion bysedd geo-hanesyddol' yn cael ei nodi gyda phob darn.
"Doedd gen i ddim syniad o sut i wneud gemwaith a rŵan dwi'n mentro fyny rhewlifoedd er mwyn creu modrwyau a cherfluniau," meddai Sevan.
"Mae fy USP (Unique Selling Proposition) wedi ei wreiddio mewn yn sut dwi'n creu'r mowld. Felly dwi byth yn sôn mewn manylder am sut dwi'n gwneud o. Dwi'n gallu deud mod i yn defnyddio mowld ond dwi byth am ddeud sut neu mae fy USP wedi gorffen."
Argyfwng hinsawdd "y peth pwysicaf"
Drwy wneud hyn mae Sevan yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd. Gyda rhewlifoedd yn meddalu mae'r mowldiau yn deyrnged i siapiau a ffurf mynyddoedd sydd wedi mynd am byth.
Er mor bwerus mae beth sydd yn digwydd i rewlifoedd ein byd yn cynrychioli sefyllfa hynod bryderus ein planed.
"Dyma 'di'r peth pwysicaf i fi. Nes i gael sgwrs gydag un o archeolegwyr gorau Prydain, James Scourse, oedd yn byw ym Mhorthaethwy," meddai Sevan.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Ddywedodd o wrtho fi tua phum mlynedd yn ôl mai'r peth pwysicaf 'da ni angen gwneud ydi cael discussions. Does 'na ddim pwynt llechio rhifau gwyddonol at bobl. Mae'n rhaid i ni gael ffordd i barhau i gael sgwrs gyda'r bobl sydd ddim am drafod yr argyfwng hinsawdd.
"Os wyt ti yn gwisgo un o rain, mae pobl yn holi 'be ydi hwn'? wedyn mae'r sgwrs ar yr argyfwng hinsawdd yn gallu dechrau o fanna. Wedyn rydan ni'n gallu trafod ein engagement ni efo'n tirwedd.
"Mae'n ffordd i roi cysylltiad go iawn gyda'n tirwedd a'r argyfwng hinsawdd."
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Gwreiddiau
Fel un o Landdona doedd mynyddoedd Eryri a phrydferthwch gogledd Cymru ddim ond tafliad carreg i ffwrdd pan roedd Sevan yn ifanc.
"Ro 'ni'n mynd i Eryri yn aml pan 'oni'n ifanc," meddai. "Mae sŵn y gwynt yn mynd trwy'r mynyddoedd yn y nos yn un o'r pethau mwyaf anhygoel erioed.
"Dyma dw'i eisiau dal yn fy ngwaith i - yr elfen arbennig ac unigryw yna o natur. Rhewlifoedd wnaeth greu'r mynyddoedd yma yng Nghymru ac mae o yn briliant. Dwi isio gwneud yn siŵr fy mod yn cadw'r essence yma ymhob un darn dwi'n creu.
"Dwi eisiau cael cerflun parhaol yn y Bannau Brycheiniog sy'n dangos sut mai rhewlif sydd wedi creu'r tirwedd yma.
"Dwi eisiau gwneud un yn yr Alpau yn sôn am rewlifoedd fyddai'n cael pobl i drafod yr argyfwng hinsawdd. A faswn i wrth fy modd yn cael darn yn Eryri."