Ysgol Abersoch: Cau'r drws am y tro olaf wedi bron i ganrif

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cau drysau Ysgol Abersoch am y tro olaf

Wedi 97 o flynyddoedd, mae Ysgol Abersoch wedi cau'r drws am y tro olaf ddydd Mercher.

Yn dilyn penderfyniad i gau'r ysgol sydd â chwech o ddisgyblion ynddi ers mis Medi, mae'r ysgol wedi bod yn destun ffrae rhwng y gymuned leol a chabinet Cyngor Gwynedd.

Yn ôl y cyngor, doedd dyfodol yr ysgol ddim yn gynaliadwy oherwydd costau a diffyg disgyblion.

Ond drwy gydol y broses mae cyfeillion yr ysgol wedi dadlau y byddai cau'r ysgol yn arwain at effaith negyddol ar y gymuned a'r iaith Gymraeg.

Wrth nodi cau'r ysgol fe gynhaliwyd diwrnod agored yn nyddiau olaf yr tymor i gyn ddisgyblion a chyfeillion ddod ynghyd.

Tra bod y penderfyniad i gau'r ysgol wedi eu gwneud ers rhai misoedd bellach, mae 'na anghrediniaeth yma o hyd.

Linda Jones
Disgrifiad o’r llun,

Pennaeth Ysgol Abersoch yw Linda Jones

"Ma'i'n ddiwrnod emosiynol", meddai'r pennaeth, Linda Jones.

"Ond ma'i hefyd yn ddiwrnod hapus i rannu atgofion, a gobeithio ddeith cyn ddisgyblion, pobl y pentref er mwyn rhannu profiadau a chofio'r dyddiau da."

Fel un o gyn ddisgyblion yr ysgol, roedd derbyn swydd Pennaeth Ysgol Abersoch yn freuddwyd i Linda Jones.

"Does ysgol ei thebyg hi yn nunlle arall", meddai.

Hen ddosbarth o blant yn Ysgol AbersochFfynhonnell y llun, Ysgol Abersoch
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddosbarthiadau cyntaf Ysgol Abersoch bron i ganrif yn ôl

Gyda dim ond chwech o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg yn yr ysgol fe benderfynodd cabinet Cyngor Gwynedd i gau'r safle.

Tra bod cynghorwyr a thrigolion lleol wedi dadlau y byddai datblygiadau tai a gwestai cyfagos yn arwain at fwy o ddisgyblion mewn blynyddoedd i ddod, yn ôl Cyngor Gwynedd doedd dim sicrwydd o hynny.

Ddechrau Rhagfyr fe benderfynodd Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch ymddiswyddo oherwydd eu gwrthwynebiad unfrydol at y penderfyniad.

Eifiona Wood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eifiona Wood bod yr ysgol wedi eu rhoi "mewn sefyllfa anodd"

Yn ôl Eifiona Wood, un o gyn llywodraethwyr yr ysgol, doedd y penderfyniad "ddim yn deg".

"Roeddan ni wedi cael ein rhoi mewn safle eithaf anodd gan y Cyngor," meddai.

"Mi oedd na ddisgwyl i ni ddiswyddo'r staff ac roeddan ni'n teimlo bod ni wedi cwffio gymaint i gadw'r ysgol ar agor, oedd o'n teimlo'n hynod annheg inni fynd drwy'r broses honno."

Robert Hywel Wyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robert Hywel Wyn Williams yn ddisgybl yn yr ysgol yn y 1940au

Gyda hanes hirfaith yn ymestyn dros bron i ganrif roedd cyfle i rai o'r disgyblion hynaf ddod draw hefyd.

Roedd Robert Hywel Wyn Williams yn gyn ddisgybl yn Ysgol Abersoch yng nghanol y 1940au.

"Mond y ddwy ystafell yma oedd yr ysgol ac oedd na rhyw 30 ohonom ni yma.

"Mi oedd a stof yn y canol i gynhesu'r ddwy ystafell a chwpwrdd mawr draw fanna efo llyfr du, ac yn y llyfr hwnnw oedd enwau'r plant oedd yn camfihafio."

Ar ôl cyfaddef i'w enw gael ei gynnwys ambell waith... dywedodd y bydd cau'r ysgol yn glec i'r ardal.

"Mae'n drist i'r gymuned ac yn enwedig i'r gymuned Gymraeg, mae o fatha torri braich dde o'r gymuned.

"Mae hon di bod yn athrylith i ni," meddai.

Tri disgybl
Disgrifiad o’r llun,

Tri o'r chwe disgybl olaf i dderbyn addysg yn Ysgol Abersoch

Melissa (chwith yn y llun uchod) fydd un o'r chwech o ddisgyblion olaf i dderbyn eu haddysg yn yr ysgol.

"Dwi'n drist, fi ddim isho mynd i ysgol arall ond isho mynd i Ysgol Abersoch," meddai.

Mae 'na bron i ganrif o atgofion a hanesion o fewn muriau Ysgol Abersoch. Tra bydd y drws yn cau am y tro olaf ddydd Mercher, bydd yr atgofion yn fyw o hyd.

Pynciau cysylltiedig