2022: Cadw'n heini, arbed arian a byw'n wyrdd

  • Cyhoeddwyd
Cyngor ar sut i gyflawni ambell beth yn 2022; o gadw'n heini, arbed arian, i fyw'n wyrddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor ar sut i gyflawni ambell beth yn 2022; o gadw'n heini, arbed arian, i fyw'n wyrdd

Tra bo' rhai ohonom yn gweld addewidion flwyddyn newydd yn wastraff amser llwyr, mae creu targedau yn ffordd o ysgogi eraill.

Ta waeth am hynny, mae'r angen i gadw'n heini, i ofalu am arian ac i fyw yn fwy gwyrdd yn bethau sy'n effeithio arnom i gyd.

Cymru Fyw fu'n casglu cynghorion doeth ond syml gan dri sy'n angerddol am y pethau hyn.

O geiniog i geiniog yr â'r arian yn bunt!

Ffynhonnell y llun, Gwennan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan Jenkins sy'n cynnig cyngor ar arbed arian yn 2022. Mae Gwennan yn rhannu rhagor o gyngor ar y cyfrif instagram @cadwmigei

Mae Gwennan Jenkins yn cynghori pobl ar sut i gynilo arian ar ei chyfrif Instagram, Cadw Mi Gei. Dyma ambell dip ganddi:

Gwneud y gorau o dalebion

Er enghraifft, os ydych yn siopa mewn archfarchnad, defnyddiwch eu cardiau i gael pwyntiau - fe allech chi arbed cannoedd o bunnoedd oddi ar gynnwys eich troli.

Cynilo

Creu Debyd Uniongyrchol (hawdd i'w wneud arlein), fel bod ychydig o arian, efallai £50 bob mis yn mynd i gyfrif cynilo - fe fydd yr arian yma gyda chi wrth gefn wedyn os bydd angen arian ar frys, os oes angen clirio unrhyw fenthyciad, neu ar gyfer cynilo i brynu tŷ neu gar efallai. Y rheol aur yw cynilo 10% o'ch incwm bob mis!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O geiniog i geiniog yr â'r arian yn bunt

Meddyliwch cyn prynu

Holwch y cwestiwn: "Oes eisiau fe arna i?" Ac os taw "Oes" yw'r ateb, holwch: Ydw i'n gallu ei fforddio?"

Pensiwn

Mae cael pensiwn yn holl bwysig - pensiwn preifat fel bod digon o arian gyda chi i fyw yn gysurus os nad ydych chi'n cael pensiwn arall. Gwnewch ychydig o ymchwil i werthfawrogi pwysigrwydd cael pensiwn.

Cliriwch

Cliriwch pob ebost yr ydych wedi tanysgrifio iddo sydd yn eich temptio i brynu heb eisiau. Treuliwch awr yn mynd trwy eich datganiadau banc i weld yn lle mae eich arian yn cael ei wario, a chanslwch unrhyw ddebyd uniongyrchol nad ydych yn ei ddefnyddio.

Tips ffitrwydd Hywel

Yr hyfforddwr ffitrwydd Hywel Griffiths sy'n rhannu ei gyngor ef ar gadw'n heini yn 2022: "Drwy gadw'r corff yn iach, rydach chi'n cadw'r meddwl yn gryf."

Gwyliwch y fideo am ragor o gyngor.

Disgrifiad,

Gwyliwch Hywel Griffiths yn rhannu ei dips ffitrwydd a sut mae cadw'n heini yn helpu ei iechyd meddwl

Byw'n fwy gwyrdd

Ffynhonnell y llun, Adam Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y garddwr Adam Jones. Mae rhagor o gyngor ganddo ar ei gyfrif instagram @adamynyrardd

Adam Jones, neu Adam yn yr ardd, sy'n rhannu 5 peth allwch chi ei wneud yn yr ardd ac er lles y blaned:

Garddio i bawb

Peidiwch bod ofn mentro yn yr ardd, mae pawb wedi gorfod cychwyn o'r cychwyn a dysgu sut i ofalu am blanhigion o bob math. Mae gymaint o blanhigion amrywiol yn y byd sydd angen gofal gwahanol mae'n golygu ein bod ni gyd wastad â mwy i ddysgu.

Swyn y salad

Mae tyfu salad yn un o'r pethau hawsaf allwn ni ei wneud i fyw bywydau iachach a gwyrddach. Yn aml byddant yn cyrraedd mewn pecyn plastig nad oes modd ei ailgylchu a bydd tipyn o'r dail yn mynd i wastraff a gwywo yn yr oergell.

Ailgylchwch bynedau grawnwin neu fadarch a gwnewch dyllau ynddynt, eu llenwi â chompost ac yna hau hadau letys torri a dod yn ôl (cut and come again), sbigoglys neu roced - pob math o ddail salad.

Gallwch wneud hyn unrhyw adeg o'r flwyddyn os yn eu tyfu ar silff ffenest cynnes yn y tŷ. Ymhen rhyw fis ar ôl hau bydd dail salad ffres yn barod i'w bwyta!

Blodau i'r blaned

Mae rhoi tusw o flodau yn anrheg yn rhywbeth hyfryd i'w wneud. Ond yn aml bydd y blodau hynny wedi'u tyfu tramor a'u mewnforio.

Tyfwch eich blodau ein hunain ar y patio neu forder yn yr ardd. Gallwch dyfu blodau torri i'r gwanwyn, haf a'r hydref yng Nghymru; pethau fel cennin pedr, tiwlipau, rhosod, dahlia, iris - mae'n rhestr ddi-ddiwedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tyfwch eich blodau ein hunain ar y patio neu forder yn yr ardd

Nawr te natur!

Ystyriwch beidio torri'r borfa mor aml i adael i'r blodau gwylltion naturiol flaguro a bydd hynny yn helpu peillwyr o bob math.

Peidiwch â chasglu pob deilen neu frigyn sy'n cronni gyda'r gwynt, crëwch domen yng nghornel fach o'r ardd yn gartref i frogaod a draenogod. Fydd hyn hefyd yn eich helpu i reoli malwod a gwlithod yn eich gardd.

Plannwch goeden a byddwch lawen!

Mae plannu coeden mewn rhan fach o'r ardd neu mewn potyn ar y patio yn ffordd wych o deimlo'n rhan o rywbeth mwy. Dim ond ychydig o ofal fydd angen ar y goeden - tamaid o gompost ffres wrth fonyn y goeden ac ychydig o ddŵr yn ystod tywydd sych. Byddwch yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Os allwch chi, plannwch goed brodorol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os allwch chi, plannwch goed brodorol

Hefyd o ddiddordeb: