Graeanwyr Sir Gâr yn dechrau streic dros dâl

  • Cyhoeddwyd
TaenuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae trefniadau wrth gefn i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd tra bod y streic yn digwydd, medd y cyngor sir

Bydd staff graeanu yn Sir Gaerfyrddin yn cychwyn streic ddydd Mercher dros anghydfod gyda'r cyngor am eu tâl.

Bydd y gweithwyr yn streicio ar 5 a 6 Ionawr, ac yna 17-21 Ionawr a 24-28 Ionawr.

Mae undeb GMB yn honni i'r cyngor sir dorri cytundeb gyda'r graeanwyr am eu tâl, a cherdded i ffwrdd o drafodaethau i ddatrys y broblem.

Mae'r cyngor yn gwrthod y sylwadau, ac yn dweud eu bod wedi cyflwyno cynnig gwell ond nad yw'r GMB wedi ei ddangos i'w haelodau.

Fe wnaeth 90% o'r staff graeanu sydd yn rhan o undeb GMB bleidleisio ym mis Rhagfyr o blaid streicio.

Rhybuddiodd yr undeb y gallai'r streic achosi i'r priffyrdd ddod i stop yn sgil prinder gyrwyr HGV.

'Dim cyngor arall yn ymddwyn fel hyn'

Daw hyn ddwy flynedd ar ôl anghydfod arall ynghylch tâl y graeanwyr pan mae'r tywydd yn golygu nad oes angen eu galw i'r gwaith.

Aeth y graeanwyr ar streic bryd hynny, cyn dod i gytundeb gyda'r cyngor.

Ond mae'r undebau nawr yn honni nad yw'r cyngor yn cadw at y cytundeb.

"Yn sgil anhyblygrwydd Cyngor Sir Caerfyrddin, does dim dewis gan ein haelodau ni bellach ond i weithredu," meddai Peter Hill, trefnydd rhanbarthol y GMB.

"Nid yw hyn yn benderfyniad hawdd, ond fe fyddwn ni'n parhau tan iddyn nhw ddod yn ôl at y bwrdd.

"Mae'n warthus bod awdurdod lleol yn gwrthod dilyn cytundeb, a'i bod wedyn yn rhoi diwedd ar drafodaethau er mwyn datrys y problemau.

"Does dim awdurdod lleol arall yng Nghymru yn ymddwyn fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyngor yn gwadu sylwadau'r undeb, gan ddweud eu bod "bob tro wedi cadw at delerau ac amodau'r cytundeb a drefnwyd".

Maen nhw'n dweud y gwnaethon nhw gyflwyno cynnig uwch a rhesymol i'r undebau, ond yn honni iddynt ddewis peidio ei gyflwyno i'w haelodau a phleidleisio ar streic yn hytrach.

"Mae'r cynnig ar gael i'n gweithwyr o hyd, ac ar y bwrdd i'w drafod gyda'n hundebau llafur," meddai'r Cynghorydd Hazel Evans, yr aelod cabinet dros yr amgylchedd.

"Rydym yn gobeithio, er budd ehangach ein cymunedau, y bydd ein gweithwyr yn rhoi ystyriaeth briodol i'r cynnig."

Ychwanegodd y cyngor fod yna drefniadau wrth gefn i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd tra bod y streic yn digwydd.

Pynciau cysylltiedig