Pryder bod graeanu'r ffyrdd 'yn niweidio'r amgylchedd'
- Cyhoeddwyd
Mae defnyddio halen y graig i raeanu'r ffyrdd yn niweidiol i fywyd gwyllt a dylid edrych ar ddulliau gwahanol, yn ôl gwyddonydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ôl Dr Dan Forman, mae amffibiaid sy'n byw mewn dŵr llonydd ar ymyl ffyrdd yn fregus yn sgil newid yn lefelau halltrwydd.
Dywedodd hefyd bod planhigion sydd fel arfer i'w gweld ar yr arfordir bellach yn tyfu mewn ardaloedd mewndirol.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn derbyn bod yna rai sgil-effeithiau negyddol, ond yn dweud bod eira a glaw yn gwanhau'r halen.
Mae yna ofyn statudol ar gynghorau i glirio rhew ac eira o'r ffyrdd mwyaf prysur.
Y llynedd, fe wariodd cynghorau Cymru rhwng £6m a £7.5m ar hyd at 250,000 tunnell o halen y graig, sy'n helpu rhew i ddadmer ar dymheredd is.
Mae hynny'n ddigon i ddygymod â'r "gaeafau mwyaf garw", yn ôl Dilwyn Jones o'r CLlLC - y corff sy'n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru, sy'n is-gontractio gwaith graeanu traffyrdd a phriffyrdd i gynghorau, eu bod wedi gwario £5.4m ar gyfartaledd ar gyflenwadau halen dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae prisiau'n gallu "amrywio'n ddramatig", medd Mr Jones, yn arbennig mewn gaeaf caled eithriadol neu yn achos prinder halen.
Mae yna bron i 22,000 o filltiroedd o ffyrdd yng Nghymru, gyda bron i 2,800 o filltiroedd yn draffyrdd neu'n Ffyrdd-A, sy'n golygu fod pawb o fewn 2.6 milltir i ryw fath o ffordd.
Mae'r ddibyniaeth ar halen i raeanu wedi cael effaith ar y byd naturiol, yn ôl Dr Forman.
"Mae poblogaethau amffibiaid yn lleihau, yn enwedig mewn ffosydd ac ar ymyl ffyrdd," meddai.
"Mae safleoedd mor drwm o halen nes bo'r amffibiaid methu silio, ac yn gadael neu'n marw."
Mae'n golygu, meddai, bod llyffantod, penbyliaid, a chreaduriaid eraill sy'n cynnal eu cydbwysedd cemegol trwy'u crwyn, dan fygythiad.
Gall newid i halltrwydd y dŵr maen nhw'n byw ynddo effeithio'n ddifrifol ar eu gallu i oroesi, ac mae'r broblem yn fwy yng Nghymru, medd Dr Forman.
"Gan fod Cymru'n wynebu'r gorllewin, mae ein hamffibiaid yn dod allan lawer cynt ac yn dechrau silio o gwmpas Ionawr, Chwefror neu Fawrth.
"A hithau'n oer bryd hynny gyda'r posibilrwydd o eira, gall y lorïau graeanu fod allan mewn niferoedd mawr.
"Mae ein holl amffibiaid yn dioddef, braidd, ac mae'r halen yn cyfrannu at hynny."
Dywed Dr Forman hefyd fod halen yn effeithio ar allu planhigyn i gynhyrchu ynni o oleuni, ac mae pridd mwy hallt ger ffyrdd mewndirol wedi newid cynefinoedd.
"Rydych chi'n gweld planhigion arfordirol yn tyfu ar ymyl ffyrdd yng nghanolbarth Cymru," meddai.
Mae'r enghreifftiau'n cynnwys morlwyau Danaidd, moron gwyllt a menig y gog, sydd fel arfer yn tyfu ar glogwyni.
Mae yna dystiolaeth hefyd bod dŵr halen o'r ffyrdd yn llifo i'r dŵr sy'n casglu dan ddaear, gan lygru'r cyflenwad dŵr, yn ôl ymchwil gwyddonydd yng Nghaerdydd, Dr Mark Cuthbert.
Mae Mr Jones yn derbyn y gall halen y graig "effeithio'n negyddol ar ecosystemau dŵr" a bod crynhoi lefelau uchel o halen "yn gallu lladd rhai anifeiliaid dŵr".
Ond fe ychwanegodd bod "eira a rhew yn gwanhau'r effaith" a bod yna gonsensws cyffredinol bod graeanu'n "ffordd dderbyniol a chost-effeithiol o gadw'r ffyrdd yn ddiogel mewn amodau rhewllyd, gaeafol".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, does "dim dadl anorchfygol ar hyn o bryd" bod maint yr halen sy'n cael ei ddefnyddio i raeanu ar hyn o bryd yn niweidiol i'r amgylchedd.
Dywedodd llefarydd bod yna duedd yn ddiweddar i gymysgu halen mewn dŵr cyn ei raeanu, sy'n golygu bod angen defnyddio llai ohono.
Dywed Dr Forman bod angen diogelu'r ffyrdd ond bod angen edrych ar ddulliau gwahanol.
"Mae yna ddulliau amgen," meddai. "Mae yna symudiad nawr i ddefnyddio llif llwch, tywod a deunyddiau eraill y gellir eu cymysgu gyda halen y graig, a lleihau maint yr halen sy'n cael ei ddefnyddio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012