Bachgen 16 oed wedi ei drywanu yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 16 oed wedi cael anafiadau difrifol wedi iddo gael ei drywanu.
Digwyddodd yr ymosodiad yn Nhrelái, Caerdydd am tua 16:55 ddydd Mawrth.
Wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw, fe gafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae'n derbyn triniaeth am anafiadau sydd ddim yn peryglu ei fywyd, medd Heddlu De Cymru.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw dystion.