Dyn yn cyfaddef treisio yng Nghaerdydd dros 40 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd
Roland Long
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Roland Long yn wynebu dedfryd o garchar

Mae dyn o Wlad yr Haf wedi pledio'n euog i dreisio menyw yng Nghaerdydd dros 40 mlynedd yn ôl.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caerdydd, fe gyfaddefodd Roland Long, 67 o Nailsea, ei fod wedi treisio menyw yn ardal Y Rhath, Caerdydd ym mis Awst 1980.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Medi 2021, ond fe newidiodd ei ble ddydd Iau.

Cafodd yr achos ei ohirio wrth i adroddiadau gael eu paratoi, ond fe rybuddiodd y Barnwr Lloyd-Clarke ei fod yn wynebu cyfnod sylweddol dan glo.

Cafodd Long ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys eto i gael ei ddedfrydu ar 18 Chwefror.

Cafodd ei arestio ym mis Medi 2020 yn dilyn ymchwiliad gan uned arbenigol o fewn Heddlu'r De sy'n adolygu troseddau rhyw sydd heb eu datrys.

Pynciau cysylltiedig