Urdd: Eisteddfodau cylch a rhanbarth di-gynulleidfa yn y gwanwyn
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Eisteddfod yr Urdd yn hyderus y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal eleni, er yn cydnabod y bydd yn wahanol i rai'r gorffennol.
Bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Dinbych yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, a chafodd Eisteddfod T ei chynnal am ddwy flynedd yn olynol yn eu lle.
Cyn y Nadolig, cyhoeddwyd na fydd cynulleidfaoedd yn eisteddfodau cylch a rhanbarth yr Urdd eleni oherwydd sefyllfa coronafeirws Cymru.
Wrth gadarnhau hynny, dywed y mudiad y bydd dros 220 o eisteddfodau lleol yn y gwanwyn yn cael eu cynnal heb gynulleidfa.
Dywedodd cyfarwyddwr dros dro Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau fod y mudiad yn "cydymdeimlo yn ofnadwy efo athrawon, rhieni a phlant a phobl ifanc sy'n byw mewn cyfnod mor gyfnewidiol ac anghyson".
'Hyblyg ac amyneddgar'
"'Dan ni'n addo gweithio hefo unigolion, ysgolion a chymunedau fel bod hwn yn brofiad da a phositif i'n plant a'n pobl ifanc o dan yr amgylchiadau sy'n bodoli," meddai Sian Eirian ar Dros Frecwast.
"Dwi'n gwybod na fydd o'n hawdd ond os 'dan ni gyd yn gweithio hefo'n gilydd er lles ein pobl ifanc ni - fe wnawn ni 'neud o i weithio ond i bawb fod yn hyblyg ac amyneddgar."
Ychwanegodd na fydd angen cynnal rhai eisteddfodau cylch, gyda'r cystadleuwyr yna yn mynd yn syth i'r rhanbarth.
Ond bydd hyn yn seiliedig ar y niferoedd fydd yn cystadlu, meddai. Mae'r dyddiad cau i gofrestru ar 14 Chwefror.
"Bydd un rhiant neu warchodwr yn cael mynychu," meddai Sian Eirian, am yr eisteddfodau cylch a rhanbarth.
"Mi fyddwn yn cyfathrebu gwybodaeth yn gyson drwy swyddogion cymunedol - mi fyddan ni mewn lleoliadau o fewn y sir ac fe fydd hyn yn cael ei gyfathrebu'n hollol glir.
"Byddwn ni'n cyhoeddi'r canlyniad cylch a rhanbarth ar ddiwedd y diwrnod cystadlu - bydd dim angen i neb oedi ac aros o gwmpas.
"Be' sy'n bwysig yw ein bod yn gwarchod iechyd a diogelwch ein plant a'n pobl ifanc."
'Caeth i'r canllawiau'
Nôl ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd yr Urdd y bydd mynediad am ddim i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, sy'n cael ei chynnal rhwng 30 Mai-4 Mehefin eleni.
Mae'r Urdd wedi derbyn £527,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ag hithau'n flwyddyn canmlwyddiant y mudiad.
"Dwi isio pwysleisio hefyd - o ran cystadlaethau torfol, mi allwn ni fod yn hyblyg a threfnu bod beirniad yn ymweld ag ysgolion," ychwanegodd Sian Eirian.
"'Dan ni'n mynd allan o'n ffordd fel ein bod ni'n cydweithio hefo pawb yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Mae holl gystadlaethau 19-25 yn cael mynd yn syth i'r Genedlaethol - hynny yn golygu yr holl unigolion, holl gorau aelwydydd ond bod yn rhaid iddyn nhw gofrestru erbyn 1 Mawrth."
Ychwanegodd: "Heb os bydd Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn wahanol i'r hyn yr oedd eisteddfodau cyn y pandemig ond dyna'r her.
"'Dan ni wedi profi bo' ni'n gallu addasu'n gyflym drwy gynnal dwy Eisteddfod T - ond alla'i sicrhau chi bod trefniadau yn eu lle a bydd croeso heb ei ail yn Sir Ddinbych ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.
"Dwi mor hyderus ac y gallai fod bydd Eisteddfod Genedlaethol... 'Dan ni 'di 'neud yr holl drefniadau - mae 'na ddisgwyl mawr amdani yn yr ardal.
"'Dan ni fel trefnwyr pob digwyddiad arall ym maes y celfyddydau a chwaraeon yn gaeth i ganllawiau y llywodraeth a bob cyngor arbenigol arall."
Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020