Urdd: Cadw elfennau o Eisteddfod T yn bosib i'r dyfodol
- Cyhoeddwyd
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11E71/production/_118692337_4a4c2d3d-19c6-44d9-929b-3967b83d8e64.jpg)
Bydd Eisteddfod T yn cael ei darlledu o stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog eleni
Mae'r Urdd yn ystyried cadw "ambell i elfen o Eisteddfod T at Eisteddfodau'r dyfodol" wrth i'r ŵyl gael ei chynnal yn rhithiol am yr ail flwyddyn yn olynol.
Gwersyll yr Urdd Llangrannog yng Ngheredigion fydd lleoliad yr ŵyl ddigidol Eisteddfod T eleni.
Bydd yr Eisteddfod rithiol yn cael ei chynnal yn ystod hanner tymor y Sulgwyn - o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin.
Mae 12,000 o blant a phobl ifanc wedi cystadlu yn Eisteddfod T eleni - dwbl niferoedd y llynedd.
'Gŵyl sy'n esblygu'
Dywedodd Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, fod yr ymateb eleni wedi bod yn "syfrdanol".
"Mae Eisteddfod T wedi bod yn gyfle i edrych ar y ein cystadlaethau mewn ffordd hollol wahanol," meddai.
"Mae'r digidol yn ail natur i blant a phobl ifanc Cymru yn barod ond rŵan o ganlyniad i Covid-19 mae llawer o bobl wedi dechrau defnyddio technoleg fel Zoom, Facetime, Teams ac yn y blaen am y tro cyntaf yn eu bywydau.
"Felly mae hi wedi bod yn bleser gallu trefnu a chynnal gŵyl fydd yn dod â chenedlaethau a phobl at ei gilydd yn rhithiol, gan fod y dechnoleg yna'n barod.
"Mae mwy na 12,000 wedi cystadlu yn Eisteddfod T eleni, dwbl niferoedd llynedd, sy'n brawf fod apêl eang i'r ŵyl.
"Efallai wir y byddwn ni yn dewis cadw ambell i elfen o Eisteddfod T at Eisteddfodau'r dyfodol - mae'n ŵyl sy'n esblygu dros amser a dyna yw ei chryfder."
Yn ôl adroddiad blynyddol 2019, fe gystadlodd tua 70,000 o bobl gyda 100,000 a mwy o ymwelwyr yn heidio i Fae Caerdydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.
![Darlledwyd Eisteddfod T 2020 o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F761/production/_118692336_872227ee-1417-4b99-b2c5-f2b8fc6480de.jpg)
Darlledwyd Eisteddfod T 2020 o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd
O ganlyniad i'r sefyllfa iechyd, cafodd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ei gohirio tan 2022, sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd.
Golygai hyn fod Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wedi symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.
Wrth siarad ar raglen Bethan Rhys Roberts fore Sul dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd, ei bod yn gobeithio y bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych am ddim.
"Mae'r Prif Weinidog wedi datgan yn y maniffesto Llafur y bydd yr Eisteddfod flwyddyn nesaf am ddim a dwi'n wir obeithio y bydd yr addewid yna yn parhau ar gyfer Eisteddfod Dinbych," meddai.
![Poster Eisteddfod T](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B2F5/production/_112431854_eisteddfodt.png)
Yn wahanol i'r llynedd, y bwriad eleni ydy cynnal prif seremonïau Eisteddfod T ar leoliad yng Ngwersyll Llangrannog, a hynny o fewn cyfyngiadau Covid-19.
Mae'r trefnwyr wedi llwyddo i ail-recordio perfformiadau rhai unigolion mewn stiwdios darlledu.
Dywedodd Eifion Evans, prif weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, bod yr awdurdod wedi "gweithio'n agos iawn" gyda'r mudiad dros y misoedd diwethaf i "sicrhau trefniadau a fydd yn boddhau gofynion a rheolau Covid-19 yn llawn".
'Ddim allan o'r dŵr dwfn'
Y llynedd, dywedodd y mudiad mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.
Mae'r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf hefyd "yn dangos gostyngiad incwm sylweddol o £14m a cholledion o dros £3.4m" i'r mudiad.
Dywedodd Sian Lewis fod pethau yn parhau i fod yn heriol ond fod yr Urdd wedi gwerthfawrogi'n fawr gefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.
"'Dan ni ddim allan o'r dŵr dwfn ar hyn o bryd - 'dan ni'n symud ymlaen yn bositif," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd25 Mai 2020