Yr arlunydd adnabyddus Mike Jones wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae'r arlunydd Mike Jones, sydd yn adnabyddus am ei bortreadau o gymunedau diwydiannol de Cymru, wedi marw yn 80 oed.
Wedi ei fagu yng Nghilmaengwyn a Godre'r Graig ger Ystalyfera pan oedd y diwydiannau trwm a glo yn eu bri mae llawer o'i waith wedi'i seilio o gwmpas pobl a lleoliadau'r ardaloedd hynny.
Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r artistiaid amlycaf i bortreadu'r cymunedau ôl-ddiwydiannol hynny, ochr yn ochr â ffigyrau fel Josef Herman a Will Roberts a ddaeth yn ffrindiau agos iddo yn ddiweddarach.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Byddai paentiadau Mike Jones yn aml yn portreadu'r caledi ym mywydau cymeriadau fel glowyr, gweithwyr tun a dur, ffermwyr a gwragedd tŷ, yn ogystal â'r pentrefi tai teras lle roedden nhw'n byw.
"Roedd fy nhad yn löwr, ac unwaith 'dych chi'n edrych ar hen luniau ac atgofion o beth oedd y cymoedd yn arfer bod fel... roedd amseroedd caled, ond hefyd ymdeimlad o gymuned," meddai mewn cyfweliad yn 2012 wrth drafod ei waith.
"Roedd pobl fel petaen nhw'n hapusach bryd hynny. Felly os yw hynny'n cael ei adlewyrchu [yn y paentiadau] fel angst neu hiraeth am y gorffennol, dwi ddim yn siŵr."
'Person arbennig'
Fe gynhaliodd Mike Jones nifer o arddangosfeydd dros y blynyddoedd, gan gynnwys yn Galeri'r Albany, Caerdydd a Galeri'r Attic, Abertawe.
Yn ddiweddarach daeth hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau wrth drafod celf weledol yng Nghymru, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol ymhlith y sefydliadau sydd â darnau o'i waith.

Mike Jones yn ystod yr arddangosfa ar ei ben-blwydd yn 80
Llynedd, ag yntau'n 80 oed cafwyd nifer o arddangosfeydd llwyddiannus dros Gymru. Cafodd un ei threfnu gan ganolfan Tŷ'r Gwrhyd a Chylch Darllen Cwmtawe i gyd-fynd a chyhoeddi'r gyfrol ''Wrth eu gwaith'', sef ei ddehongliad o weithiau beirdd a llenorion y cwm.
Ymhlith y rhai a sydd wedi rhoi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol mae Fosse Gallery yn Stow-on-the-Wold, Sir Gaerloyw - lleoliad arall y bu Mike Jones arddangos.
"Heddiw mae'r gymuned artistig yma wedi colli aelod arbennig iawn," medden nhw.
"Mae'n dristwch mawr gennym ni i adrodd am farwolaeth ein ffrind Mike Jones.
"Hoffwn gyfleu ein cydymdeimladau dwys i'w annwyl wraig Eryl, a'i deulu a'i ffrindiau."