'Ni ddylai unrhyw lywodraeth elwa ar draul glowyr'
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai unrhyw lywodraeth "elwa ar draul glowyr a'u gweddwon" yn ôl un cyn löwr o dde Cymru.
Dywedodd ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ne Cymru, fod glowyr wedi "talu ar hyd eu hoes er mwyn cael rhywbeth yn ôl".
Daw hyn mewn ymateb i alwadau ar Lywodraeth y DU i adolygu telerau ac amodau Cynllun Pensiwn y Glowyr, sy'n nodi bod unrhyw arian dros ben o'r cynllun yn cael ei rannu'n gyfartal - 50% yr un - rhwng y llywodraeth a'r glowyr.
Cafodd adroddiad trawsbleidiol ei gyhoeddi y llynedd a ddywedodd na ddylai'r llywodraeth fod yn elwa o bensiynau glowyr.
Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn parhau i ymrwymo i ddiogelu pensiynau glowyr.
Pan gafodd Glo Prydain ei breifateiddio ym 1994, fe gamodd Llywodraeth y DU i'r adwy i sicrhau na fyddai gwerth ariannol pensiynau glowyr yn gostwng.
Fel rhan o'r cytundeb gydag Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiynau Glowyr, penderfynwyd y byddai unrhyw arian dros ben o'r cynllun yn cael ei rannu'n gyfartal - 50% yr un - rhwng y llywodraeth a'r glowyr.
Ym mis Gorffennaf y llynedd, daeth pwyllgor traws-bleidiol Busnes, Economeg a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) i'r casgliad bod nifer aelodau'r Cynllun wedi lleihau "yn sylweddol" ers 1994, ac felly'n lleihau risg ariannol y Cynllun.
Dywedodd yr adroddiad fod Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy na £4bn ers 1994 hefyd.
Argymhellodd y pwyllgor adolygiad o drefniant y cynllun.
Argymhellodd hefyd y dylai'r Llywodraeth ildio'i hawl i Gronfa Buddsoddiadau Wrth Gefn, sydd gwerth £1.2 biliwn, a defnyddio'r arian i godi'r cyfanswm y mae glowyr yn derbyn yn eu pensiynau bob wythnos.
Dywedodd cyn-löwr ers 20 mlynedd ac ysgrifennydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn Ne Cymru, Wayne Thomas: "Mae [glowyr] wedi talu trwy gydol eu hoes er mwyn cael rhywbeth yn ôl.
"Yn syml, rydyn ni'n gofyn i sicrhau canran llawer yn uwch i aelodau'r cynllun o'r arian sydd dros ben, yn lle rhannu'r arian dros ben yn gyfartal gyda'r llywodraeth sydd wedi elwa'n sylweddol.
"Byddai'n gwneud gwahaniaeth i unigolion. Gallai fod yn unrhyw beth rhwng £15 ac £20 yn ychwanegol. Os cymerwch chi weddw ar bensiwn isel, gallai £16 yn ychwanegol gwneud gwahaniaeth mawr.
"Rydym yn gweld pris cyfartalog nwy yn codi, mae costau gwresogi cartref yn aruthrol. Byddai unrhyw beth i'r gweddwon hyn o fudd iddyn nhw a phob un ohonom."
'Gwarthus'
Ychwanegodd: "Y stori o hyd yw bod y glowyr yn cael bargen dda ac maen nhw wedi elwa'n sylweddol oherwydd gwarant y llywodraeth.
"Efallai roedd hwn yn wir 20 mlynedd yn ôl, ond nid yw'n wir bellach.
"Ni ddylai unrhyw lywodraeth elwa ar draul glowyr a'u gweddwon. Mae'n warthus."
Mewn ymateb i adroddiad pwyllgor BEIS, dywedodd Llywodraeth y DU fod yn well gan ymddiriedolwyr gadw'r cytundeb presennol yn hytrach na ildio gwarant y Llywodraeth a pheryglu dyfodol y cynllun.
Yn ôl Anthony Jones, oedd yn löwr yng Nglofa'r Betws ac un o Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y Glowyr, mae yna "nifer sylweddol o bobl sy'n anhapus" gyda'u pensiynau.
Dywedodd: "Er fy mod yn parchu gweinidogion am eu sylwadau yn gyhoeddus, rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ddeall hefyd tra bod rhai pobl yn eithaf bodlon ar faint o bensiwn mae nhw'n derbyn, mae gennym nifer sylweddol o lowyr - y mwyafrif o bobl - sy'n derbyn £10 i £18 yr wythnos.
"Yn anffodus nhw yw'r rhai mwyaf oedrannus yn y boblogaeth.
"Felly tra bod yna bobl sy'n hapus gyda'u pensiynau, mae yna nifer sylweddol sy'n anhapus, yn enwedig gyda faint mae'r Llywodraeth wedi elwa dros y blynyddoedd heb dalu unrhyw beth yn ôl i'r cynllun."
'Cefnogi unigolion - a chymunedau'
Mae Ymgyrch Gymunedol y Meysydd Glo wedi dadlau o blaid newid y cytundeb, gan herio Llywodraethau Ceidwadol a Llafur dros y tri degawd diwethaf.
Arwyddodd tua 40 o Aelodau Seneddol Llafur lythyr ddiwedd mis Tachwedd 2021, yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar ganfyddiadau'r adroddiad trawsbleidiol a gyhoeddwyd gan bwyllgor BEIS.
Dywedodd y llythyr: 'Bydd rhoi'r setliad ariannol y maent yn ei haeddu i gyn-lowyr nid yn unig yn cefnogi'n uniongyrchol y rhai a fu'n gweithio'n ddiflino am ddegawdau, ond bydd hefyd yn cael effaith sylweddol ar economïau lleol cymunedau meysydd glo sy'n stryglan'.
Dywedodd AS Llafur Torfaen, Nick Thomas-Symonds: "Mae'n fater brys ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd oedran y glowyr sydd ar ôl sy'n haeddu'r ansawdd byw gwell.
"Yn ail, oherwydd y sefyllfa economaidd rydyn ni'n eu hwynebu ar hyn o bryd gyda chostau byw yn cynyddu. Felly, rydw i'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar frys a rhoi'r arian i'r glowyr mae nhw'n eu haeddu."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran adran BEIS Llywodraeth y DU: "Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i ddiogelu pensiynau glowyr.
"Mae aelodau Cynllun Pensiwn y Glowyr yn derbyn taliadau 33% yn uwch nag y bydden nhw wedi derbyn, a hynny oherwydd gwarant y Llywodraeth ac mae aelodau'r cynllun wedi derbyn taliadau bonws hefyd oherwydd y cytundeb bresennol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2016