Ystadegau'n awgrymu ton lai difrifol na gaeaf llynedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwely gwag mewn uned gofal dwys ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd 24 o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn ystod wythnos olaf 2021- y ffigwr wythnosol isaf ers diwedd Awst.

Mae hefyd yn ostyngiad sylweddol o'i gymharu â'r wythnos flaenorol ym mis Rhagfyr, sef 49.

Cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi union flwyddyn ers diwrnod gwaethaf y pandemig yng Nghymru. Cofnodwyd 83 o farwolaethau'n gysylltiedig â'r feirws ar 11 Ionawr 2021.

Yn y cyfamser mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dangos gostyngiad, am y pedwerydd tro yn olynol, yng nghyfradd achosion Cymru - 1,780.5 i bob 100,000 o bobl - sef y gyfradd isaf ers cynnydd cyflym mewn heintiadau Omicron yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Mae'r ONS, yn wahanol i ICC, yn cofnodi pob marwolaeth sy'n gysylltiedig â'r feirws, boed mewn ysbyty, hosbis, cartref gofal neu gartref, ar sail y wybodaeth ar dystysgrifau marwolaeth.

Mae wedi cofnodi 9,229 o farwolaethau Covid yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Ni chafodd yr un farwolaeth ble roedd Covid-19 yn ffactor eu cofnodi mewn 10 sir yn yr wythnos hyd at 31 Rhagfyr - Blaenau Gwent, Casnewydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Mynwy, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Y Fflint ac Ynys Môn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O'r 3,985 o farwolaethau Covid yn 2021 y mae'r ONS wedi eu cofnodi hyd yn hyn, roedd 182 ym mis Rhagfyr, o'i gymharu â 1,333 yn Rhagfyr 2020.

Erbyn diwedd 2021, roedd yna bedwar o farwolaethau Covid y dydd ar gyfartaledd, o'i gymharu â 63 y dydd ddiwedd 2020 - adeg ail don y pandemig.

O edrych ar nifer y marwolaethau 'ychwanegol' yng Nghymru, sy'n cymharu cyfanswm y marwolaethau o unrhyw achos meddygol gyda'r un cyfnod mewn blynyddoedd blaenorol, 6,991 yw'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig.

Mae'r ONS hefyd yn nodi bod nifer y marwolaethau wedi bod yn uwch yn y 24 wythnos diwethaf na chyfartaledd yr un wythnosau dros bum mlynedd.

Disgrifiad,

Dr Eleri Davies ar raglen Dros Frecwast: Ffigyrau Covid yn "edrych yn well" ond sawl ffactor eto i amlygu eu heffaith

Mae ystadegau diweddaraf ICC yn dangos gostyngiad yn niferoedd achosion ac yng nghanran y profion coronafeirws positif, sef 47.5%, ond mae newidiadau i'r canllawiau o ran cynnal profion yn cymhlethu'r darlun.

Ers 6 Ionawr does dim angen i bobl sy'n cael canlyniad positif yn dilyn prawf llif unffordd drefnu prawf PCR dilynol os nad oes ganddyn nhw symptomau Covid.

Golyga hynny na fydd oddeutu 10% o'r profion positif arferol yn cyfri' o ran datganiad dyddiol ICC.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford wrth Aelodau'r Senedd ddydd Mawrth nad yw'n glir os yw'r ffigyrau diweddaraf yn amlygu "gostyngiadau go iawn" ynteu'n ganlyniad llai o brofion PCR.

Pwysleisiodd bod y ffigyrau'n dal "yn aruthrol o uchel" ac y bydd yn cymryd "rhai diwrnodau eto" cyn y daw'r darlun yn gliriach.

Pynciau cysylltiedig