Rhybudd am niwl trwchus mewn mannau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai niwl trwchus achosi problemau teithio yn rhannau o dde a chanolbarth Cymru nos Lun a dydd Mawrth.
Daw'r rhybudd melyn i rym am 19:00 nos Lun gan barhau tan hanner dydd y diwrnod canlynol.
Dywedodd llefarydd y bydd y niwl, fydd yn drwchus a rhewllyd mewn mannu, yn golygu "amodau teithio anodd" posib.
Gallai hyn hefyd effeithio ar wasanaethau trên a bws.
Mae'r rhybudd ar gyfer siroedd Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Powys, Sir Fynwy a Thorfaen.