‘Y flwyddyn addysg ora dwi erioed 'di gael’

  • Cyhoeddwyd
Oriel gydag arddangosfa o gelf amrywiolFfynhonnell y llun, Owein Prendergast
Disgrifiad o’r llun,

Arddangosfa yn Storiel, Bangor yn dathlu hanes y cwrs celf sylfaen

Mae Coleg Menai yn dathlu 40 mlynedd o'r cwrs celf sylfaen (ar ôl cryn oedi diolch i'r pandemig) gydag arddangosfa yn Storiel, Bangor.

Cymru Fyw gafodd sgwrs gyda rhai o'r cyn-fyfyrwyr am eu hatgofion o'u blwyddyn nhw ar y cwrs.

Owein Prendergast

Ffynhonnell y llun, Owein Prendergast
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Owein Prendergast yn ystod ei flwyddyn Sylfaen

Tad Owein, yr arlunydd Peter Prendergast oedd un o ddarlithwyr cyntaf/sefydlol y cwrs celf sylfaen yng Ngholeg Menai yn ôl yn 1980, ac mae Owein ei hun bellach yn ddarlithydd ac yn arweinydd y cwrs ers 1997.

Mae'n cydnabod fod y cwrs heb os wedi newid ei fywyd, er ei fod wedi oedi mymryn cyn mynd amdani i astudio gan ei fod wedi bod ychydig yn "bryderus am gael fy nysgu gan fy nhad". Yn rhyfedd iawn doedd y syniad o gael gwers life drawing gan ei dad yn apelio dim.

Ffynhonnell y llun, Owein Prendergast
Disgrifiad o’r llun,

Tad Owein, Peter Prendergast (ar y dde) gydag Ed Davies (canol) yn nyddiau cynnar y cwrs

Ond buan iawn anghofiodd hynny a gwerthfawrogi'r cyfle i gael astudio gyda chymaint o bobl oedd yn rhannu'r un meddylfryd. Tra'n astudio, cafodd gyfle i drio cymaint o wahanol bethau ond un o'r rhai oedd yn sefyll allan oedd taith i Ferthyr Tudful gyda'i ddarlithydd Paul Davies i greu map mwd o Gymru mewn ysgol gynradd.

Fel tiwtor, mae o wedi mwynhau cymaint o agweddau'r gwaith, o'r teithiau i Prague a Berlin i drafodaethau dydd i ddydd ym Mharc Menai, Bangor. Mae'n sicr yn credu ei fod yn gyfle unigryw ond yn dipyn o eithriad o fewn taith addysg pobl.

Ffynhonnell y llun, Owein Prendergast
Disgrifiad o’r llun,

Owein Prendergast tra'n fyfyriwr ar y Cwrs Celf Sylfaen

Erin Maddocks

Ffynhonnell y llun, Rocksalt Photography
Disgrifiad o’r llun,

Erin Maddocks, cyn-fyfyriwr celf sylfaen

Bellach mae Erin Maddocks yn gweithio fel gwneuthurwr hetiau a dylunydd gwisgoedd ar gynyrchiadau theatr. Fe astudiodd hi yng Ngholeg Menai yn 2006 gan ddweud ei fod yn "lot fawr o ryddid, a chael dy annog a dy ysbrydoli i fod yn rhydd a trio gwahanol betha, g'neud camgymeriada', o'dd hynny'n elfen bwysig iawn ohono fo a dysgu o dy gamgymeriada' rili."

Ffynhonnell y llun, Erin Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith Erin o'i chwrs celf sylfaen

Aeth yn ei blaen o'r cwrs sylfaen i astudio gradd mewn dylunio theatr ond mae ei hatgofion o'r flwyddyn yng Ngholeg Menai yn rhai melys, wrth rannu lifft gyda tri o'i ffrindiau a cheisio ffitio "llwyth o geriach" i mewn i'r car wrth iddyn nhw gyfarfod bob bore.

Meddai Erin: "Dwi'n meddwl - a dwi'n meddwl fysa lot o ffrindia fi ar y cwrs yn dweud hefyd - fod o'r flwyddyn addysg ora dwi 'rioed 'di gael… a be' 'da ni'n gofio lot gan y tiwtors ydi'r catchphrase 'don't be precious'."

Ffynhonnell y llun, Erin Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Het mae Erin wedi ei ddylunio

Lisa Eurgain Taylor

Ffynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Lisa Eurgain Taylor mewn arddangosfa o'i gwaith

Pan astudiodd yr arlunydd Lisa Eurgain Taylor y cwrs sylfaen yn 2009 doedd hi ddim wir yn gwybod be' i ddisgwyl, ond mae'n dweud mai'r peth mwya' gafodd hi o'r profiad oedd hyder.

"O'n i'n gwybod mod i eisiau cael rhyw fath o yrfa yn y byd celf, ond roedd bod yn artist llawn amser yn freuddwyd llwyr ar y pryd a do'n i ddim yn rili coelio yn fy ngwaith nag yn fi fy hun tan hynny," meddai.

"Dwi'n cofio un o'r tiwtoriaid, Iwan Gwyn Parri yn dod ata'i un diwrnod a deud 'ti'n gwybod 'sa chdi'n gallu 'neud hyn fel bywoliaeth dwyt?' a dyna pryd neshi sylwi, actually ma' hyn 'na yn opsiwn. Felly diolch iddo fo a'r cwrs mod i wedi cael yr hyder 'ma."

Ffynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith Lisa o'i Chwrs Sylfaen

Roedd yr awyrgylch greadigol yn rhywbeth wnaeth argraff mawr ar Lisa ac mae'n credu fod 'na gysylltiad a bond arbennig rhwng pawb sydd wedi gwneud y cwrs "a 'ma pawb jest yn dweud faint oedden nhw wedi enjoio'r profiad a dweud mai honno oedd y flwyddyn ora' oedden nhw wedi gael."

Ffynhonnell y llun, Lisa Eurgain Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Darn o waith gan Lisa Eurgain Taylor - Crib Goch a'r Wyddfa

Elfyn Lewis

Ffynhonnell y llun, Elfyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Yr arlunydd, Elfyn Lewis

Aeth yr arlunydd Elfyn Lewis i astudio'r cwrs sylfaen o Borthmadog yn 1987 dan arweiniad Peter Prendergast ac mi oedd o'n baratoad gwych ar gyfer mynd ymlaen i wneud cwrs gradd. Yn ôl Elfyn roedd y cwrs yn "torri chdi lawr i ail-greu chdi, mewn ffordd dda."

Roedd o'n teimlo fod o'n cael ei wthio i fod yn well trwy'r adeg, er fod yr oriau hir a pha mor ddwys oedd y gwaith yn gallu bod wedi dod fel dipyn o sioc ar y cychwyn. Ond mae Elfyn yn sicr na fyddai yn "neud be dwi'n 'neud heddiw heblaw bo' fi 'di 'neud y cwrs yna." Ychwanegodd bod y cwrs wedi dysgu'r dyfalbarhad sydd angen i gario 'mlaen hyd yn oed pan mae'r gwaith yn mynd yn ei erbyn o bryd i'w gilydd.

Ffynhonnell y llun, Elfyn Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith diweddar gan Elfyn Lewis - Gwaed a Haearn

Mae ei ddiolch i Peter Prendergast yn fawr ac mae'n credu fod Peter wedi torri sawl ffin er mwyn gwneud celf o fewn cyrraedd mwy o bobl dosbarth gweithiol yng Nghymru.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig