Ateb y Galw: Yr artist Lisa Eurgain Taylor

  • Cyhoeddwyd
Lisa Eurgain TaylorFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Yr artist Lisa Eurgain Taylor sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Huw Ynyr yr wythnos diwethaf.

Mae Lisa yn wreiddiol o Sir Fôn ac yn peintio tirluniau ffantasïol wedi eu hysbrydoli gan Eryri. Mae hi wedi arddangos ei gwaith ar draws y wlad yn ogystal â sioeau grŵp ym Mharis, Rhufain a Llundain ac enillodd wobr Dewis y Bobl yn Clyde & Co Llundain yn 2013.

Mae ei harddangosfa unigol nesaf, Cymylau Hedd, yn agor ym Mhlas Glyn y Weddw ym mis Ebrill.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar lin fy nhaid yn gweiddi nerth fy mhen mai 'hogan Daid' oeddwn i. Roedd Daid yn glanna' chwerthin ond doedd Nain ddim rhy hapus! (Fun fact: Daid mae rhai pobl o Sir Fôn yn ei ddweud yn lle Taid.)

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Danny Jones o'r band McFly.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Heb os, Enlli. Mae hi'n ynys mor hudolus ac ysbrydol. Mae gen i atgofion melys iawn o fynd yno ar fy ngwyliau efo fy nheulu pan o'n i'n fach. Mae 'na rywbeth mor braf am fod yn bell o'r tir mawr.

Ffynhonnell y llun, Mari Huws
Disgrifiad o’r llun,

Yr haul yn machlud dros Enlli

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Disgyn o flaen y bws ysgol ym mlwyddyn 7 a gweiddi 'Maaaam!'. 'Chydig o wythnosau wedyn wnes i ddisgyn i mewn i swamp ar gae yr ysgol ac o'n i'n fwd o mhen i'n nhraed. O'n i'n clumsy iawn mae'n rhaid.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Free Fallin' (fersiwn John Mayer) - y gân fwya' styning erioed. Mae'r gitâr a llais John Mayer yn anfarwol.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Rhyw bythefnos yn ôl wrth wylio ffilm ddogfen Seaspiracy - agoriad llygad go iawn!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Yr artist Vincent Van Gough, a dweud wrtho fo bod ei waith o werth miliynau. (A chael tips peintio ganddo fo!)

Ffynhonnell y llun, Mario Tama
Disgrifiad o’r llun,

Un o hunanbortreadau Van Gogh a baentiodd yn 1887

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Defnyddio tua chwe gwydr gwahanol bob dydd a'u gadael o gwmpas y tŷ yn lle mynd â nhw i'r sinc.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Easygoing, positif, gweithgar.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Parti mawr efo fy nheulu, ffrindiau a fy nghi bach sosej ar draeth poeth, yn dawnsio ac yn yfed coctêls.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr ydi Atomic Habits gan James Clear. Mae o'n dangos i chi sut i newid eich bywyd drwy wneud newidiadau bychan. Mae o wir wedi newid y ffordd 'dw i'n meddwl.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i'n cael trafferth dweud y gwahaniaeth rhwng chwith a dde. Wedi dweud wrth fy nghariad i gymryd y troad anghywir lot fawr o weithiau!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Cysgu ar gwch yng nghanol y Great Barrier Reef efo Ifs fy nghariad, yn yfad gwin rhad o dan y sêr a gweld dolffiniaid yn nofio at y gwch.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Bruschetta, spag bol, cacen gaws.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Un o'r pobl mwya' talentog yn y byd - Billie Eilish. Mae hi mor wahanol ac yn gymaint o cŵl dŵd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2020, Billie Eilish oedd y cerddor ieuengaf i ysgrifennu cân i ffilm James Bond, pan ysgrifennodd No Time To Die yn 18 oed

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Casi Wyn

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw