'Angen i Gymru gael elwa o dir y Goron fel Yr Alban'
- Cyhoeddwyd
Dylai Cymru gael yr un pwerau â'r Alban i elwa o ddatblygu tir sydd yn berchen i'r Goron, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae gwerth £603m o dir yng Nghymru, gan gynnwys gwely'r môr o amgylch yr arfordir, yn berchen yn swyddogol i'r Frenhines.
Ond yn Yr Alban mae rhan helaeth o'r portffolio bellach dan reolaeth Llywodraeth Yr Alban, sydd wedi galluogi i'r weinyddiaeth wneud elw drwy ddatblygu'r diwydiant ynni gwynt ar yr arfordir.
Nawr mae deiseb sydd yn gofyn i'r un pwerau am Ystâd y Goron gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru wedi casglu dros 5,500 o lofnodion.
Ond yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, does dim "diddordeb nac awydd gan y cyhoedd" am newid y system bresennol.
Galw am gadw'r elw yng Nghymru
Dywedodd Rhodri Williams, wnaeth lansio'r ddeiseb bythefnos yn ôl, fod yr ymateb wedi bod yn "arbennig".
"Ry'n ni'n siarad am filiynau o bunnoedd, felly mae pobl wrth gwrs eisiau gwybod mwy," meddai.
"Wnes i ddechrau hyn oherwydd lle dwi'n byw yng Ngwm Afan maen nhw'n mynd i adeiladu'r wind turbines uchaf yn y byd… felly dwi wedi dysgu llawer am wind turbines a beth sy'n digwydd, ac fe wnaeth hynny arwain i fi i ofyn pam nad yw'r wind turbines yma allan yn y môr?
"Ac fe wnes i ddysgu fod y Crown Estate yn Yr Alban yn cael cadw yr elw, ac yng Nghymru dydyn ni ddim - mae'n mynd i Lywodraeth Prydain.
"Beth sy'n wahanol am bobl Cymru i gymharu â'r Alban?"
Mae angen cadw'r arian ac unrhyw elw yng Nghymru, medd Mr Williams, gyda'r potensial i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a chreu mwy o swyddi.
Yn gynharach fis yma dywedodd Mr Hart yn Nhŷ'r Cyffredin fod y trefniant presennol yn gweithio'n "dda iawn" ac nad yw'n credu fod "unrhyw ddiddordeb nac awydd gan y cyhoedd i newid termau'r trefniant hwnnw".
"Mae'n achos o 'Os dyw e ddim wedi torri, peidiwch â'i drwsio'," meddai.
Beth sy'n berchen i Ystâd y Goron yng Nghymru?
65% o'r arfordir a gwely afonydd;
Holl wely'r môr hyd at dros 13 milltir o'r arfordir;
Dros 50,000 erw o dir;
250,000 erw o dir mwynol;
Unrhyw aur ac arian sy'n cael ei ddarganfod.
Yn ystod y refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban yn 2014 fe wnaeth y Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol addo mwy o ddatganoli i'r Alban.
Cafodd pwerau dros Ystâd y Goron yno ei ddatganoli yn swyddogol yn 2017.
Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd fod bron i £700m wedi'i godi yn Yr Alban trwy rentu ffermydd gwynt oddi ar yr arfordir.
Mae Llywodraeth y DU a'r Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn datganoli Ystâd y Goron i Gymru.
Dywedodd llefarydd amgylchedd y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch Saunders fod yr ystâd "wedi'n gwasanaethu ni'n dda dros y blynyddoedd.
"Os nad yw'r system wedi torri, pam ar wyneb y ddaear fydden ni eisiau cefnogi datganoli rhagor o bwerau?" gofynnodd.
Ychwanegodd fod angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar ddefnyddio'r pwerau sydd ganddynt eisoes yn well cyn galw am fwy o bwerau.
"A dweud y gwir dydyn nhw ddim wedi'n gwasanaethu ni'n dda gyda'r cyfrifoldebau sydd ganddynt ar hyn o bryd," meddai.
'Bod o fudd i bobl Cymru'
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Byddai datganoli rheolaeth dros Ystâd y Goron yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni ddewis pa mor bell a pha mor gyflym ry'n ni'n cyflwyno ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
"Bydd y buddion yn mynd tu hwnt i daro ein targedau hinsawdd.
"Mae gennym adnoddau naturiol arbennig er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy - rydym eisiau gallu defnyddio'r rheiny i fod o fudd i bobl yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn cymunedau a swyddi gwyrdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021