Prosiectau ynni llanw yn cael eu 'hanwybyddu' gan y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Morlyn Llanw Gogledd CymruFfynhonnell y llun, North Wales Tidal Energy
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygwyr cynllun morlyn yn y gogledd yn dweud nad yw'r llywodraeth wedi rhoi unrhyw gymorth iddynt

Mae cefnogwyr prosiectau morlyn llanw yn dweud ei bod hi'n "rhwystredig" fod Llywodraeth y DU yn eu "hanwybyddu".

Fe allai technoleg morlyn llanw gyflenwi 5-10% o drydan y DU, yn ôl corff ynni llanw.

Cyhoeddwyd cynllun newydd ar gyfer Bae Abertawe ddechrau'r wythnos, ond mae datblygwyr sydd eisiau codi rhai mwy yn dweud nad ydy Llywodraeth y DU yn talu sylw iddynt.

Mae angen "tystiolaeth gref" o werth am arian y cynlluniau, meddai Llywodraeth y DU.

'Dewch i ni weithio 'da'n gilydd'

Roedd Ioan Jenkins yn gweithio ar gynllun blaenorol ar gyfer Bae Abertawe a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth y DU dair blynedd yn ôl.

Mae'n dweud mai ychydig iawn mae'r llywodraeth wedi ei wneud gyda'r sector ers hynny, ac mae'n "anodd cael dealltwriaeth o ble maen nhw".

"Nagyn nhw wedi bod yn siarad 'da ni. Ni'n barod i adeiladu llawer o'r rhain dros Gymru, dros Brydain a dros y byd.

"Beth ni'n gofyn i San Steffan yw, 'dewch i siarad 'da ni. Dewch i ni weithio 'da'n gilydd i ffeindio ateb'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gynllun am forglawdd rhwng Prestatyn a Llandudno i gynhyrchu ynni o'r môr

Gall Llywodraeth Cymru ganiatáu prosiectau ynni hyd at 350 megawat, ond mae'n rhaid i unrhyw gynllun mwy na hynny gael caniatâd Llywodraeth y DU.

Un o'r prosiectau hynny ydy Ynni Morol Gogledd Cymru, sydd am godi morglawdd 2.3 gigawat fyddai'n ymestyn 31km o Brestatyn yn Sir Ddinbych i Landudno yn Sir Conwy, gyda chost o £7bn.

Mae'r prosiect wedi dod i stop, meddai'r Cadeirydd Henry Dixon.

"Fel llawer o ddatblygwyr eraill ar gyfer ynni uchder llanw, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y llywodraeth a dydyn ni ddim yn deall hynny a ninnau ag argyfwng ynni.

"Ym Mhrydain, mae gyda ni adnodd unigryw: gallai 5-10% o'r trydan ym Mhrydain gael ei gynhyrchu gan y llanw, a 'dyn ni'n cael ein hanwybyddu," meddai Mr Dixon, sydd hefyd yn arwain corff sy'n cynrychioli'r sector, Y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw.

Yn 2017, fe wnaeth adolygiad gan y cyn-Weinidog Ynni Charles Hendry gefnogi cynlluniau ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe, gan ddweud na fyddai'r llywodraeth yn "difaru" ei ganiatáu.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd y prosiect yn cynnig gwerth am arian.

Yn ôl y Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw, mae gwelliannau yn y dechnoleg yn golygu nad yw asesiadau blaenorol yn gywir bellach, ac maen nhw'n galw am £20m gan y Llywodraeth er mwyn cynnal asesiad annibynnol newydd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gwrthodwyd gynllun am forlyn llanw Bae Abertawe nôl yn 2018

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa o £120m fydd yn galluogi'r diwydiant niwclear i ddatblygu adweithyddion modiwlar bychain.

Mae'r Gynghrair Ynni Amrediad Uchder Llanw yn honni bod morlynnoedd llanw yn gallu creu'r un faint o ynni a ffynonellau niwclear, a'u bod nhw'n rhatach i'w hadeiladu ac yn para lot yn hirach - tua 120 mlynedd.

Yn ôl John Idris Jones, un o arweinwyr prosiect ynni llif llanw Morlais ar Ynys Môn, "mae'n drist iawn nad oes 'na ddim byd yn dod allan o Lywodraeth y DU yn nhermau adnabod ffyrdd o gefnogi ac ariannu" prosiectau morlyn llanw.

Mae Mr Jones, sydd â phrofiad helaeth yn y maes ynni niwclear yn Wylfa, yn rhagdybio y byddai modd creu fframwaith i ariannu'r prosiectau hyn gan fod "gynnon ni brosiect cyfalaf mawr efo niwclear hefyd".

"Mae'r morlynnoedd yma'n rhan o'r gymysgedd sy'n rhaid eu cael os ydy'r llywodraeth yn Llundain ac yng Nghaerdydd o ddifrif ynglŷn â net sero."

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Her Morlyn Llanw cyn diwedd y flwyddyn.

"Mae gan forlynnoedd llanw ran bwysig i'w chwarae wrth gynhyrchu ynni," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Ar ôl trafod a phrofi'r farchnad, mae Llywodraeth Cymru am ddatblygu cynnig eang ac arloesol fydd yn rhoi'r gobaith gorau o ddatblygu a phrofi ynni morlyn ym moroedd Cymru."

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Mae ein harfordir yn cynnig potensial enfawr i gynhyrchu ynni glan ac mae Llywodraeth y DU yn parhau'n agored i gynigion da i ddefnyddio ynni amrediad uchder llanw.

"Er mwyn cystadlu gyda thechnolegau carbon isel eraill, bydd angen i gynllun amrediad uchder llanw ddangos tystiolaeth gref o werth am arian, budd economaidd, arbedion ynni ac ystyriaethau amgylcheddol."

Pynciau cysylltiedig