Y Bencampwriaeth: Bristol City 3-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Caerdydd eu trechu gan Bristol City yn Ashton Gate brynhawn Sadwrn, gan olygu eu bod bellach wedi mynd chwe gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.
Aeth yr Adar Gleision ar y blaen wedi hanner awr, wrth i'r ymosodwr James Collins benio croesiad Tommy Doyle - oedd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb - i gefn y rhwyd.
Ond o fewn dau funud roedd hi'n gyfartal unwaith eto, gyda Chris Martin yn crymanu'r bêl heibio i'r golwr Alex Smithies i'r gornel isaf.
Daeth ail gôl i'r tîm cartref wedi awr o chwarae, wrth i Martin rwydo eto i roi'r tîm o Fryste ar y blaen am y tro cyntaf.
Ychwanegodd Andreas Weimann drydedd gyda chwarter awr yn weddill, ac er i Max Watters sgorio gôl hwyr i'r ymwelwyr, roedd Bristol City eisoes wedi gwneud digon i selio'r fuddugoliaeth.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd yn aros yn yr 20fed safle am y tro - bedwar pwynt o safleoedd y cwymp.