Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 21-52 Bryste
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y Scarlets gweir gan Fryste yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn, er gwaethaf ymdrech ddewr gan y Cymry am fwyafrif y gêm.
Cafodd Bryste ddechrau da, gyda gwaith gwych gan y Cymro Ioan Lloyd yn creu cais i Semi Radradra, cyn i Lloyd sgorio ail i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 3-14.
Gyda'r dorf wedi cael dychwelyd i Barc y Scarlets wedi i gyfyngiadau Covid gael eu llacio, llwyddodd y tîm cartref i daro 'nôl gyda chais gan y bachwr Ryan Elias wedi 23 munud.
Diolch i ddiffyg disgyblaeth gan Fryste a chiciau cywir gan Rhys Patchell daeth y rhanbarth o Gymru 'nôl o fewn pwynt i'r ymwelwyr erbyn hanner amser.
Aeth y Scarlets ar y blaen am y tro cyntaf ar ddechrau'r ail hanner yn dilyn gôl gosb arall gan Patchell, ond wedi 57 munud aeth Bryste 'nôl ar y blaen gyda chais cosb, gydag Elias hefyd yn gweld cerdyn melyn.
Er eu bod un dyn yn brin daeth cais arall i'r tîm cartref yn fuan wedi hynny gyda Johnny McNicholl yn croesi yn y gornel, cyn i'r ymwelwyr ymateb yn syth gyda chais gan yr eilydd Harry Thacker.
Sgoriodd eilydd arall, Piers O'Conor bumed cais i Fryste cyn i Siva Naulago ychwanegu chweched eiliadau'n unig yn ddiweddarach i'w gwneud yn 21-40.
Daeth seithfed cais i'r ymwelwyr gan faswr Cymru, Callum Sheedy, cyn i Radradra sgorio eto er mwyn selio buddugoliaeth swmpus i Fryste.
Mae'r canlyniad yn golygu fod y Scarlets ar waelod eu hadran yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.