Concro Copaon Cymru

  • Cyhoeddwyd
Erwyn ar Crib GochFfynhonnell y llun, Erwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Erwyn ar Crib Goch

Mae Erwyn Jones o Flaenau Ffestiniog yn hoff iawn o gerdded mynyddoedd Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi llwyddo i ddringo 100 copa uchaf y wlad.

Roedd Erwyn yn gweithio yn chwarel Llechwedd am dros ugain mlynedd, cyn mynd 'mlaen i chwarel Cwt y Bugail a Chwarel Y Penrhyn, Bethesda.

Un o'i ddyletswyddau tra'n gweithio yn y diwydiant llechi oedd fel shotfirer, sy'n gyfrifol am weithio gyda ffrwydron.

Mae Erwyn hefyd yn gynghorydd tref ac yn gadeirydd cyngor tref ym Mlaenau Ffestiniog.

Pryd ddechreues di gerdded fel hobi?

Dwi'n hoff o gerdded ers o'n i'n fawr o beth. Fy nghof cyntaf ydy cael mynd am dro efo Mam bron bob pnawn Sadwrn i weld Dad yn y chwarel (roedd Dad yn gweithio saith diwrnod yr wythnos adeg hynny, felly prin iawn o'n i yn ei weld o adra!)

Roedd cael mynd fyny i'r chwarel yn hogyn tua pum mlwydd oed yn dipyn o antur wrth gwrs, a rhywbeth fyddai Iechyd a Diogelwch ddim yn ei ganiatáu dyddiau 'ma!

Cychwynnodd y diddordeb o fynydda pan oeddwn i'n fy arddegau cynnar, drwy grwydro mynyddoedd Bro Ffestiniog - Y Moelwynion a'r Manod, ac yna ehangu o fanna i fentro ymhellach wrth fynd yn hŷn a mwy hyderus.

Pa mor hir gymerodd o i ti gwblhau'r 100?

Blwyddyn oedd y targed gwreiddiol i gwblhau'r 100 copa, ond llwyddais i'w gwblhau o fewn naw mis.

Ath hi bron yn her o fewn her yn y diwedd - yn gyntaf ceisio cyrraedd 40 copa cyn fy mhen-blwydd, ac yna ceisio darfod cyn diwedd Rhagfyr (o Ebrill i Ebrill oedd y nod gwreiddiol).

Roedd yn golygu mentro ym mhob tywydd tua'r diwedd, a sawl bore cynnar er mwyn cyrraedd mynyddoedd y De.

Oes gen ti gwmni tra'n cerdded?

Gan amlaf cerdded fy hun bydda i, ond mae gen i ffrindiau bydd yn dod efo fi i fynydda ar brydia, sef Delia, Iwan (gogleddwyr) a Geraint o'r de.

Disgrifiad o’r llun,

Delia, Geraint ac Erwyn ar Fan Frynych

'Da'n ni i gyd wedi cwblhau'r 100 copa hefyd, gyda Delia, Iwan a fi hefyd wedi cwblhau 'Nuttalls Cymru' - y 189 copa dros 2000 troedfedd.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y Nuttalls a mynydd?

Does 'na ddim llawer o wahaniaeth rhwng y 100 Copa a'r Nuttalls.

Maent oll yn fynyddoedd dros 2000 troedfedd, ond bod rhaid cael disgyniad tir o amgylch y copa o o leiaf 50 troedfedd i'w chysidro fel Nuttall.

Yn wahanol i'r 100 copa sydd angen disgyniad o o leiaf 98 troedfedd.

Pam nes di benderfynu gwneud y 100?

Her i ddathlu blwyddyn fy mhen-blwydd yn 40 oedd yr ysgogiad.

Ar ôl gweld ffrwd fy ffrind Instagram Delia oedd ar ganol eu cwblhau, a dyma fi yn meddwl - 'sa 100 Copa Cymru yn sialens dda.

Beth yw dy hoff atgof o ddringo'r 100 copa?

Yr unig beth doniol, neu embarassing ella fedra i feddwl am ydi darfod y 100 ar y copa anghywir.

Ffynhonnell y llun, Erwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ysgafell Wen

O'n i wedi dewis Ysgafell Wen fel y copa olaf, ond mae ganddi dri chopa (y prif gopa, copa gogleddol, a chopa ogleddol bellaf), a dim ond un copa oedd yn y meini prawf 100 copa, gyda'r ddau arall yn Nuttall.

Wrth i mi lamu yn hyderus a chyrraedd y copa olaf, wedi gwirio ar fy map, roeddwn ar y copa anghywir - sef y north top ac nid y prif gopa… dipyn o embaras o feddwl ei bod hi'n gopa ar fy mhatch fy hun yma yn Ffestiniog.

Gwynt, glaw a niwl mis Rhagfyr cafodd y bai!

Ffynhonnell y llun, Erwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Erwyn ar gopa'r Cnicht, fore Nadolig

Oes gen ti hoff fynydd?

Fel cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, beryg y baswn i yn pechu fy nghyd-drigolion o beidio enwi un o fynyddoedd Ffestiniog fel fy ffefryn.

Felly Ysgafell Wen, (sydd rhwng y Moelwyn a'r Cnicht) sydd yn un o is-gopaon y Moelwyn dwi'n ei ddewis fel ffefryn gan ei fod yn lecyn tawel, diarffordd gyda golygfeydd gwych o Fae Porthmadog a llawer iawn o fynyddoedd Eryri!

Ond, fy ffefryn y tu allan i fro Ffestiniog, er ddim rhy bell, yw mynyddoedd y Rhinogydd!

Oes gen ti gas fynydd?

Yr Wyddfa ar ddiwrnod prysur - un byddaf yn ceisio ei osgoi!!

Beth yw pwrpas mynd am dro i ti?

Mae'n debyg i gadw'n heini ydi prif reswm yr holl fynydda 'ma.

Ond hefyd i geisio cadw trefn ar fy mhwysau gwaed, sydd braidd yn uchel yn ôl fy meddyg (er, dydw i ddim yn siŵr faint o gymorth yw hyn wrth lamu i fyny rhai o ochrau serth y mynyddoedd 'ma).

Ond yn sicr, mae diwrnod ar fynydd yn rhyddhad o holl bwysau beunyddiol bywyd, ac yn ddihangfa i'r meddwl. Yn ddi-os, mae'n fanteisiol i iechyd meddwl rhywun.

Beth yw'r her nesaf?

Dwi wedi cael fy mherswadio i ymgymryd â her 15 copa Eryri yr haf 'ma, sef holl fynyddoedd Eryri sydd dros 3000 troedfedd, a hynny mewn diwrnod!

Mae'r her yn cynnwys Yr Wyddfa, y Glyderau a'r Carneddau... cawn weld sut yr eith hi!

Pynciau cysylltiedig