Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 23-19 Caeredin
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i'r Gweilch frwydro am eu buddugoliaeth yn erbyn y tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn ar ôl i Gaeredin ennill mantais gynnar o 0-14.
Roedd hi'n ddechrau llewyrchus i Gaeredin wrth i Boar Venter gipio dau gais gynta'r gêm a Jaco Van Der Welt yn eu trosi'n llwyddiannus.
Erbyn hanner amser, roedd y Gweilch ar ei hôl hi o 3-14 yn dilyn cic gosb gan y maswr Stephen Myler wedi rhyw hanner awr o chwarae.
Ond newidiwyd trywydd y gêm gan gais y cefnwr Mat Protheroe a throsiad Myler yn gynnar yn yr ail hanner.
Gyda chais gan y bachwr Sam Parry a throsiad arall gan Myler, fe wnaeth y Gweilch gipio'r blaen ar 17-14.
Er i Venter sgorio cais arall i Gaeredin, methon nhw ag ailgydio yn eu mantais wrth i Myler sgorio dwy gic gosb i sicrhau buddugoliaeth y Gweilch.