Rhybudd am wyntoedd cryfion i ogledd Cymru ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi dweud y gallai gwyntoedd cryfion achosi difrod a phroblemau teithio yn rhannau o ogledd Cymru brynhawn dydd Sul.
Mae'r rhybudd melyn ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, ac Ynys Môn.
Daw'r rhybudd i rym am 15:00 ddydd Sul gan barhau tan hanner dydd y diwrnod canlynol.
Mae disgwyl i wyntoedd Storm Malik gyrraedd hyd at 60mya dros arfordiroedd a bryniau yn bennaf.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd gwyntog arwain at gau rhai ffyrdd a phontydd, ac at doriadau i gyflenwadau trydan.
Mae'n bosib y bydd rhywfaint o aflonyddwch teithio, gan gynnwys i longau ac awyrennau.
Mae rhybudd hefyd y gallai tonnau mawr a gweddillion sy'n cael eu taflu drwy'r awyr achosi "anafiadau a pherygl i fywyd".